Cyhoeddi enwau’r rhai hynny sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2016!
MAE’R rhestr fer hollbwysig wedi’i chyhoeddi ar gyfer Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2016 a noddir gan Rockwool UK ac a gefnogir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd y seremoni wobrwyo tei du a chinio gala disglair yn cael ei chynnal yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr, Llangrallo, Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Gwener 23 Medi 2016, gyda newyddiadurwraig a chyflwynydd teledu’r BBC, Sian Lloyd, yn cynnal y noson, ynghyd â gwestai arbennig, sef Aelod Cynulliad Pen-y-bont ar Ogwr, Carwyn Jones, AC.
Yn dilyn proses feirniadu drwyadl, dewisodd y panel, a oedd yn cynnwys noddwyr gwobrau 2016, y busnesau canlynol o bob categori i gyrraedd y rownd derfynol: Myfyriwr Busnes y Flwyddyn a noddir gan Busnes mewn Ffocws Christopher Lloyd, Whatchrisdoes – enwebwyd gan Goleg Penybont Busnes Newydd y Flwyddyn a noddir gan Gyfrifwyr Achrededig Graham Paul Meithrinfa Ddydd Sadie & Frank’s Day Nursery Ltd Strut Your Paws The Food Shed CIC Busnes Gwasanaeth y Flwyddyn a noddir gan Handelsbanken Scott Waste Ltd Smart Education Wales Ltd Datakom Ltd Busnes Gweithgynhyrchu’r Flwyddyn a noddir gan Gyfreithwyr Berry Smith Ecokeg Europe Customised Sheet Metal Entrepreneur y Flwyddyn a noddir gan Goleg Penybont Datakom Ltd Forsee Group Scott Waste Ltd Busnes Twristiaeth y Flwyddyn Pen-y-bont ar Ogwr Gwesty Best Western Heronston Coed-y-Mwstwr Gwarchodfa Natur a Chanolfan Ymwelwyr Parc Slip Gwobr y Diwydiannau Creadigol a noddir gan ISA Training Ltd Daydream Education Ltd Customised Sheet Metal Ltd Wales Interactive Ltd Busnes Arloesol y Flwyddyn a noddir gan EEF, sefydliad y gweithgynhyrchwyr ISA Training The Food Shed CIC Spectrum Technologies PLC
I gael rhagor o wybodaeth am y seremoni wobrwyo a’r busnesau sydd ar y rhestr fer, ewch i: www.bridgendbusinessforum.co.uk