Datgelu enillwyr gwobrau busnes lleol
DATGELWYD enillwyr Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2017. Dyma’r pumed tro i’r digwyddiad gael ei gynnal a chafwyd cinio mawreddog yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr, Pen-y-bont ar Ogwr i ddathlu’r achlysur.
Roedd dros 240 o bobl busnes, gan gynnwys y naw enillydd ffodus, yn y seremoni gwobrau busnes. Sian Lloyd, cyflwynydd a darlledwr y BBC oedd yn arwain y noson, a gefnogwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Choleg Penybont.
Yr enillwyr ym mhob categori oedd:
‘Myfyriwr Busnes y Flwyddyn’ – Scott Ewing / Kristian Stark
‘Busnes Newydd y Flwyddyn’ – Magenta Financial Planning
‘Busnes Gwasanaeth y Flwyddyn’ – Kontroltek Ltd
‘Busnes Gweithgynhyrchu’r Flwyddyn’ – Recycle Direct Ltd
‘Busnes Twristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn’ – Ysgol Syrffio Porthcawl
‘Entrepreneur y Flwyddyn ’ – William Scott
‘Busnes Arloesol y Flwyddyn’ – Nemein Ltd
‘Gwobrau’r Diwydiannau Creadigol’ - Wales Interactive Ltd
Llwyddodd Kontroltek Ltd i gipio dwy wobr yn y digwyddiad: ‘Busnes Gwasanaeth 2017’ a’r teitl y byddai pawb yn hoffi ei ennill ‘Busnes y Flwyddyn 2017 Pen-y-bont ar Ogwr’.
Dywedodd Andrew Follant, Cyfarwyddwr Rheoli Kontroltek Ltd: “Rydym ni wrth ein boddau o gipio nid un, ond dwy wobr yn ystod Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr.
“Roedd ennill ‘Busnes Gwasanaeth y Flwyddyn’ a ‘Busnes Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn 2017’ yn gwbl anhygoel ac rwy’n gobeithio bod hyn yn dangos gwaith caled ac ymroddiad ein gweithlu, a gweledigaeth y busnes.
“Rydym ni’n arbennig o falch o’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal ag yn y blynyddoedd blaenorol, a bydd y gwobrau hyn yn helpu i gryfhau ein gwasanaeth, ein cynaliadwyedd a’n datblygiad yn y dyfodol.
“Roedd hi’n noson anhygoel ac yn gyfle gwych i ni ddiolch i’n staff am eu hymroddiad ac mewn gwirionedd ein helpu ni i wneud ein busnes dyfu’n llwyddiannus, felly, diolch i bawb yn nhîm Kontroltek.”
Dywedodd Ian Jessopp, Cadeirydd Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae’r seremoni wobrwyo eleni wedi bod yn achlysur eithriadol arall; yr orau erioed yn fy marn i!
“Gwnaeth twf sylweddol Kontroltek, a’i gynlluniau i ehangu, argraff eithriadol o dda ar y beirniaid. Maen nhw wedi gwneud buddsoddiadau sylweddol mewn prentisiaethau a phartneriaethau â cholegau lleol, gan roi cyfle i fyfyrwyr peirianneg ddatblygu sgiliau gwerthfawr.
“Ni fyddai’r gwobrau hyn yn bodoli oni bai am safon uchel y busnesau a’r unigolion yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn bersonol, rwy’n falch iawn o fod yn perthyn i gymuned fusnes glos, ond sy’n broffesiynol ac yn gryf.
“Y busnesau hyn yw asgwrn cefn ein heconomi, ac maen nhw’n cynnig buddsoddiad sydd wir ei angen, cyfleoedd am swyddi a chyllid i’r economi leol. Hoffwn ddymuno llwyddiant parhaus i bob un ohonynt yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, a oedd hefyd yn bresennol yn y seremoni: “Gallaf ddweud yn onest ein bod ni, mewn gwirionedd, yn freintiedig yn y fwrdeistref sirol hon fod gennym ni lawer mwy na’r disgwyl o fusnesau rhagorol”.
“Mae ein bwrdeistref sirol yn parhau i ffynnu gyda chymorth busnesau ac entrepreneuriaid newydd ac mae croeso mawr iddyn nhw yn ein tref. Mae’n wych gweld busnesau newydd yn datblygu’n llwyddiannus ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae’r cyngor yn parhau i ymrwymo i gefnogi economi lwyddiannus drwy sicrhau cymorth i fusnesau a chreu amodau addas ar gyfer twf a mentergarwch. Un o’r meysydd lle’r ydym yn dangos hyn yw drwy Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, ac rydym ni fel cyngor yn falch o’i gefnogi er mwyn sicrhau bod gwaith gwerthfawr y fforwm yn parhau.
“Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi dangos unwaith eto ei bod yn fwrdeistref sirol fywiog ac iddi ddiwylliant entrepreneuraidd rhagorol a chymuned fusnes sy’n ffynnu.
“Mae Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn ffordd wych o ddiolch i fusnesau am eu cyfraniad i wneud y fwrdeistref sirol yn lle gwych i fyw, gweithio a gwneud busnes ynddo, a hoffwn longyfarch bob un o’r enillwyr, a dymuno pob llwyddiant i bawb yn y dyfodol.”
Roedd noddwyr eraill y gwobrau yn cynnwys Rockwool; ISA Training; Cyfreithwyr Berry Smith; EEF, sefydliad y gweithgynhyrchwyr; SME Finance Partners; Handelsbanken; ION Leadership; Harris Bassett; KK Solutions; Cyllid Cymru; ac United Graphic Design.
Cododd casgliad elusennol ar gyfer Apêl Elusennau’r Maer 2017/18 gyfanswm o £900 i’r elusennau a enwebwyd eleni; Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, Gofal Canser y Fron – Ysbyty Tywysoges Cymru a Chymdeithas Alzheimer’s Pen-ybont ar Ogwr.
I gael rhagor o wybodaeth am y fforwm ac i weld y lluniau a’r fideos swyddogol o noson Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i: www.facebook.com/ bridgendbusinessforum neu dilynwch ni ar Twitter @ bridgendforum