Dathlu llwyddiant cymuned fusnes Pen-y-bont ar Ogwr yn y seremoni wobrwyo
FFORWM Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu llwyddiant y gymuned fusnes leol yn ddiweddar, wrth i enillwyr gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2018 gael eu datgelu mewn swper gala fawreddog a seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty Coed-Y-Mwstwr, Pen-y-bont ar Ogwr.
Mynychodd dros 220 o weithwyr busnes proffesiynol y seremoni wobrwyo gan gynnwys Carwyn Jones, AC Pen-y-bont ar Ogwr a Noddwr Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd pawb yn awyddus i ddarganfod pwy fyddai enillwyr holl bwysig chweched digwyddiad gwobrau busnes blynyddol Pen-y-bont ar Ogwr, a noddir gan Rockwool UK a’i gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-ybont ar Ogwr.
Dan arweiniad cyflwynydd a darlledwr y BBC, Sian Lloyd, gwelwyd naw busnes lwcus yn ennill gwobrau mewn amrywiaeth o gategorïau, o ‘Myfyriwr Busnes y Flwyddyn’ i ‘Gwobr y Diwydiannau Creadigol’. Roedd yr enillwyr ym mhob categori fel a ganlyn:
Myfyriwr Busnes y Flwyddyn a enwebwyd gan Goleg Pen-y-bont ar Ogwr - Keiron Farr
Busnes Newydd y Flwyddyn – Team 8 Digital Ltd
Busnes Gwasanaeth y Flwyddyn – A &R Contract Cleaning Specialists Ltd
Busnes Gweithgynhyrchu’r Flwyddyn – Engineering Services Ltd
Busnes Twristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn – Porthcawl Bike Hire
Entrepreneur y Flwyddyn – Linda Wongham, Assisted Mobility Services
Gwobr y Diwydiannau Creadigol – Wales Interactive Ltd
Busnes Arloesol y Flwyddyn – Apollo Teaching Services Ltd
Busnes Gwasanaethau Proffesiynol y Flwyddyn – TSW Training Ltd
Gwobr Cymeradwyaeth y Noddwr – Ford Engine Plant, Pen-y-bont ar Ogwr
Yn bachu dwy wobr ar y noson, ennillodd Apollo Teaching Services Ltd y wobr gyffredinol ‘Busnes y Flwyddyn Pen-y-bont ar Ogwr 2018’ hefyd.
Dywedodd Angela Painter, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Apollo: “Mae Apollo Teaching Services wrth eu bodd o fod wedi ennill ‘Busnes Arloesol y Flwyddyn’ yn ogystal â’r wobr gyffredinol ‘Busnes y Flwyddyn Pen-y-bont ar Ogwr 2018’ yng Ngwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2018.
“Yn Apollo Teaching Services ein nod yw bod ar flaen y gad gyda syniadau newydd, ac rydym yn hapus dros ben ein bod wedi cael cydnabyddiaeth am ein dull newydd arloesol o wella cyfathrebu rhwng staff cyflenwi ac ysgolion. Mae ein platfform recriwtio newydd yn galluogi ysgolion i drefnu staff cyflenwi yn uniongyrchol, 24 awr y dydd. Gall staff Apollo Teaching Services lawrlwytho ein ap, nodi’r amseroedd y maent ar gael, a derbyn gwaith ar y pryd.
“Rydym yn hynod o falch o bopeth yr ydym wedi ei gyflawni ers agor yn 2006, ac mae’r gwobrau hyn yn brawf o’n hymrwymiad parhaus i’n hysgolion a’n staff. Byddwn yn ymdrechu i barhau i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf, gan sicrhau ein bod ar y blaen mewn perthynas â thechnoleg newydd.”
Dywedodd Cadeirydd y fforwm, Ian Jessopp: “Mae wedi bod yn seremoni wobrwyo anhygoel arall eleni yn dathlu llwyddiant lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae wir yn wych gweld cymaint o fusnesau lleol yn dod at ei gilydd ar y noson wobrwyo hon i gydnabod llwyddiannau ei gilydd.
“Rwyf hefyd yn falch bod Gwobr Cymeradwyaeth y Noddwr wedi dychwelyd eleni, yn cydnabod Ford Engine Plant Pen-y-bont ar Ogwr am eu hymrwymiad, eu hymroddiad a’u buddsoddiad hirdymor yn yr economi leol.
“Mae Gwobrau Fforwm Busnes Peny-bont ar Ogwr yn achlysur arbennig a heb y safon uchel o fusnesau ac unigolion yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chefnogaeth ein noddwyr, ni fyddai’r gwobrau hyn yn bodoli. Llongyfarchiadau i bob un o’n henillwyr a dymunaf y gorau iddynt i’r dyfodol.”
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cynghorydd Hywel Williams: “Unwaith eto, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi dangos fod ganddo gymuned fywiog o fusnesau gyda’r holl dalent ardderchog sydd i’w weld yng Ngwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2018.
“Mae’n wych gweld cymaint o weithwyr busnes proffesiynol yn llwyddo ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda busnesau newydd yn datblygu trwy’r amser. Esiampl o sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dod yn fwy dynamig a ffyniannus yw’r ffaith ein bod bellach yn y pedwerydd safle ymhlith y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru ym Mynegai Economi Lewyrchus Grant Thornton, o gymharu â phum mlynedd yn ôl pan oeddem wedi’n gosod yn hanner isaf eu tabl.
“Mae’r cyngor yn ymrwymedig i gefnogi economi lwyddiannus ac mae Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn ffordd dda i ddiolch i fusnesau am eu cyfraniad i wneud y fwrdeistref sirol yn lle gwych i fyw, i weithio ac i gynnal busnes ynddi.
“Llongyfarchiadau i holl enillwyr eleni, a dymunaf y gorau iddynt i’r dyfodol.”
Roedd noddwyr y gwobrau yn cynnwys y prif noddwr Rockwool UK, Aevitas, Banc Datblygu Cymru, EEF The manufacturer’s organisation, Graham Paul Chartered Accountants, Handelsbanken, Harris Bassett, ISA Training, KK Solutions, SME Finance Partners, United Graphic Design, Berry Smith Lawyers a Cymraeg Byd Busnes.
Roedd y gwobrau hefyd yn cynnwys casgliad elusennol i helpu Apêl Elusen y Maer 2018/2019, a gasglodd arian i gefnogi elusennau noddedig eleni; The Stroke Association, Gofal Canser Tenovus a Parkinson’s.
Am fwy o wybodaeth ar y gwobrwyon ac i weld y lluniau swyddogol, ewch i Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr ar Facebook neu dilynwch @BridgendForum ar Twitter.