Gwynedd: un o bob tri am ddioddef dementia
. mewn cartrefi gofal yng Nghymru, sef ‘Lle i’w Alw’n Gartref’.
“Ydi, mae adeilad ffisegol yn hollbwysig ac mae’r adeilad a welais heddiw, er nad yw wedi’i gwblhau eto, yn edrych yn wych yn barod. Am enghraifft wych o’r hyn y dylai pobl hŷn gael yr hawl iddo.
“Ond onid yw’n fwy na hynny? Mae’n golygu’r bobl yn yr adeiladau, yr hyfforddiant a’r gefnogaeth a gânt hefyd.
“Mae rhaglen gyfoethogi ac yn benodol y ffocws ar y celfyddydau ym Mharc Pendine, sy’n sicrhau bod pobl gyda dementia yn cymryd rhan, yn defnyddio’u sgiliau a’u doniau wedi creu argraff fawr arnaf.
“Mae cyfoethogi’n ddull gweithgar, sy’n gweld rhywun gyda dementia fel caffaeliad enfawr, sy’n dal i feddu ar wybodaeth a phersonoliaeth.
“Roedd yr hyn a welais ac a glywais heddiw am y rhaglen gyfoethogi yn enghraifft wych o hynny.
“Bydd Bryn Seiont Newydd yn gaffaeliad enfawr i Gymru ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl hŷn gyda dementia. Mae’n lle y bydd pobl yn ei alw’n gartref.
“Dyna, yn ei hanfod, y mae pawb ohonom eisiau wrth i ni dyfu’n hŷn. Efallai nad ydym yn berchen ar y brics a’r morter ond mae pob un ohonom am fyw mewn man y gallwn ei alw’n gartref, lle mae’r bobl yn poeni amdanom, lle teimlwn ein bod yn cael ein caru a lle teimlwn ein bod yn cael ein gwerthfawrogi.
“Roedd hi’n fraint wirioneddol i ddod heddiw. Efallai mai wedi’i hanner adeiladu y mae ond gallaf weld yn glir y dyhead a’r gwerthoedd y tu cefn iddo ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddod nôl pan fydd yn agor.”
Roedd perchennog Parc Pendine, Mario Kreft MBE, yn ddiolchgar i Mrs Rochira am roi o’i hamser i ymweld â Chanolfan Bryn Seiont Newydd y disgwylir iddi agor yn yr Hydref.
Dyfarnwyd MBE i Mr Kreft, sydd hefyd yn gadeirydd ar Fforwm Gofal Cymru, yn 2010 am ei gyfraniad i ofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn gynharach eleni, cafodd Wobr Dewi Sant gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd: “Rydym wir yn gwerthfawrogi cyfraniad y Comisiynydd at hyrwyddo hawliau pobl hŷn sy’n haeddu cael eu trin gydag urddas a pharch.
“Rydym yn ymroi i wella ansawdd bywyd ein trigolion trwy’n rhaglen gyfoethogi sy’n cofleidio’n gyfan gwbl y celfyddydau fel ffordd o estyn allan at bobl.
“Bydd darparu gofal a chefnogaeth i’r nifer gynyddol o bobl sy’n byw gyda dementia yng Nghymru a sicrhau eu bod yn cael y bywyd ansawdd gorau posibl, nawr ac yn y dyfodol, yn esgor ar nifer fawr o heriau.
“Yr unig ffordd i ni gyflawni’r heriau hynny yw trwy gydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa’n uniongyrchol trwy gydweithredu.”