Arbenigwr gwin yn meddwi ar hud Llangollen
BYDD arbenigwr gwin o Hong Kong a syrthiodd mewn cariad ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn hedfan 6,000 o filltiroedd i weithio fel gwirfoddolwr yn yr ŵyl.
Cafodd Bill Kong, 54 oed, ei swyno gan yr eisteddfod ar ei ymweliad cyntaf fel aelod o’r gynulleidfa ddwy flynedd yn ôl pan gyflawnodd uchelgais oes i brofi’r ŵyl drosto ei hun.
Roedd wrth ei fodd gymaint gyda’r awyrgylch hudolus bryd hynny ac yn 2014, nes ei fod yn bwriadu teithio nôl i Langollen ym mis Gorffennaf i ymuno â’r criw bychan o wirfoddolwyr ymroddedig sy’n gwneud y digwyddiad diwylliannol eiconig hwn yn gymaint o lwyddiant bob blwyddyn.n.
Mae cysylltiadau Bill â Phrydain yn mynd yn ôl dros 40 o flynyddoedd pan fynychodd ysgol baratoi wrth ymyl Bewdley yn Swydd Gaerwrangon, ysgol breifat ger Uttoxeter yn Swydd Stafford.
Yn ddiweddarach aeth i Goleg Manceinion, Rhydychen i astudio am radd mewn gweinyddu cymdeithasol cyn dychwelyd i Hong Kong yn 1984.
Ymunodd Bill â Chôr Meibion Cymraeg Hong Kong ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach wedi iddo gael ei gyflwyno i’r côr gan ei ffrind.
Dywedodd: “Roedd cyd-aelodau’r côr yn gofyn i mi beth oedd fy nghysylltiadau â Chymru a byddwn yn dweud wrthynt fy mod wedi bod mewn ysgol baratoi yn Swydd Gaerwrangon sydd yn eithaf agos i’r ffin â Chymru.Chy “Pe “Perfformiais gyda’r côr yng Ngŵ Ngŵyl Corau Meibion Cymry Llu Llundain yn Neuadd F Frenhinol Albert yn 2004 y yn dilyn derbyn g gwahoddiad gan Gymry Llundain, a chanu gyda chorws Gŵyl Celfyddydau Hong Kong ar gyfer cy cynhyrchiad o Tosca yn 199 1999, a dyma lle wnes i gyfar gyfarfod fy ngwraig, Selena.” Pan n nad yw’n mwynhau cerddoriaeth, mae Bill yn gweithio, ymysg pethau eraill, fel ymgynghorwr yn y busnes gwin yn Hong Kong, ac yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn fewnforiwr gwin, addysgwr, ymgynghorydd i fewnforwyr a beirniad gwin.
Mae hefyd yn uwch ymgynghorwr hyfforddiant ar gyfer cwmni mawr sydd wedi’i leoli yn Hong Kong ac yn arbenigo mewn rheoli risg ac argyfwng.
Mae Selena Hoi Yi Fung Kong, gwraig Bill sy’n 39 oed, hefyd yn teimlo’n angerddol am gerddoriaeth ac wedi gweithio fel addysgwr cerddoriaeth mewn ysgol yn Hong Kong am y 17 mlynedd diwethaf.
Mae ganddynt fab Daniel, 9 oed, a fydd yn mynychu ysgol baratoi yn Lloegr o fis Ebrill.
Dywedodd Bill: “Mi wnes i ddod draw gyda fy ngwraig a’r mab i Eisteddfod Llangollen am y tro cyntaf yn 2013.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at yr ymweliad oherwydd fy nghyfnod o dros 20 mlynedd gyda’r côr Cymraeg a gwaith fy ngwraig ym maes cerddoriaeth.
“Rydym yn rhannu ein cariad am gerddoriaeth a diwylliant Cymru ac rydym wedi’n swyno ag enw mor hudolus ag Eisteddfod Ryngwladol. Felly roedd yn rhaid i ni ddod i’w ddarganfod drosom ein hunain. Wnaethon ni ddim sylweddoli bryd hynny pa mor gynnes fyddai’r croeso ac y byddwn yn gwneud gymaint o ffrindiau ac eisiau dod yn ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn.”