Y tim achub mynydd a’r hofrennydd melyn
WRTH i Wasanaeth Achub Sgwadron 22 yr RAF yn Y Fali, Ynys Môn ddod i ben ar ôl dros hanner canrif, bydd rhaglen ar S4C yn olrhain hanes diwedd eu partneriaeth gyda thîm achub mynydd prysuraf Prydain.
Yn SOS Yr Wyddfa: Newyddion Arbennig nos Fercher, cawn ymuno â thîm achub mynydd Llanberis wrth iddynt gydweithio gyda Sgwadron 22 am y tro olaf. Ar ôl i’r bartneriaeth gyda’r RAF ddod i ben, fe fydd y gwasanaeth yn cael ei breifateiddio.
Yn y rhaglen a gyflwynir gan Iolo ap Dafydd, bydd Caradog Jones, y Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest, yn rhannu ei farn a’i deimladau am ddyfodol y gwasanaeth. Bydd cyfweliadau gydag aelodau o’r RAF gan gynnwys Sgt Ed Griffith sy’n symud i’r cwmni preifat fydd yn rhedeg y gwasanaeth
Mae tua 200 o bobl yn cael eu hachub yn flynyddol gan Tim Achub Mynydd Llanberis i’w gymharu â 50 o bobl y flwyddyn tua 40 mlynedd yn ôl.
Wrth i wasanaeth achub yr RAF ddod i ben a fydd angen i gerddwyr ac ymwelwyr ddechrau talu neu gymryd yswiriant allan rhag ofn iddynt ddod i drafferthion ar y mynydd?
Mae Helen Pye yn warden ardal ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri. Mae hi’n teimlo bod addysgu cerddwyr am ddiogelwch dringo mynyddoedd yn allweddol.
“Dwi’n meddwl bod dysgu dringwyr i fod yn fwy hunan ddibynnol yn holl bwysig ac mae Parc Cenedlaethol Eryri ynghyd â phartneriaeth Mynydda Diogel wedi gwneud llwyth o waith dros y blynyddoedd diwethaf, felly gobeithio y gwnawn ni weld y gwaith yma yn dechrau cael effaith,” meddai Helen. SOS Yr Wyddfa: Newyddion Arbennig: S4C, nos Fercher 9.30pm
.