O Awstralia i daclo trosedd
gymuned amaethyddol wedi canmol y tîm am y ffordd y mae wedi llwyddo i leihau troseddau cefn gwlad.
Meddai Mr Roddick: “Mae diddordeb yn ein tîm yn cynyddu drwy’r amser. Yn gyntaf heddluoedd eraill Cymru a oedd yn dangos diddordeb, yna Lloegr ac erbyn hyn y byd.
“Mae’n bleser gennym groesawu ein hymwelydd o Awstralia sydd wedi darllen a chlywed am ein tîm trosed- dau cefn gwlad llwyddiannus ac mae’n dod yma i weld dros ei hun y model rydym wedi’i greu.
“Gallwn ni hefyd elwa o’r ymweliad hwn. Mae gan dalaith Fictoria lawer iawn o arferion da y gallwn ni ddysgu ohonynt.”
Roedd Rhingyll Rob Taylor, sy’n arwain yr uned sydd â swyddogion wedi’u lleoli yn rhanbarth Gorllewinol, Canolog a Ddwyreiniol yr Hed- dlu, hefyd yn falch o’r cyfle i roi croeso cynnes Cymreig i’r Uwcharolygydd Gillard.
Medai Rhingyll Taylor: “Bydd yn treulio dau ddiwrnod gyda mi ac aelodau eraill o’r tîm ar 26 a 27 Gorffennaf, a bydd yn gyfle iddo weld yn union sut ydym yn gweithio a’r dulliau yr ydym yn eu defnyddio sy’n ein gwneud ni’n unigryw ymysg heddluoedd eraill.
“Un o’r pethau y byddwn yn egluro wrtho ydi ein dadansoddiad rhagfynegol hynod o lwyddiannus, sy’n ein galluogi ni i gyfrifo sut a ble mae troseddau yn mynd i gael eu cyflawni.
“Golyga hyn ein bod ni bob 24 awr yn edrych yn ofalus ar y galwadau yr ydym wedi’u cael am droseddau cefn gwlad a fferm er mwyn i ni allu rhoi darlun at ei gilydd o bryd a ble mae mathau gwahanol o droseddau yn cael eu cyflawni.
“Gallwn hefyd ragweld yr amser prysuraf o’r flwyddyn ar gyfer troseddau fferm, sef mis Gorffennaf.”
Fe ychwanegodd Rhingyll Taylor: “Ni ydi’r unig dîm o’r fath yng Nghymru ar rydym wedi gosod meincnod ar gyfer datrys troseddau cefn gwlad.
“Rydym yn cael nifer o alwadau gan heddluoedd eraill yn y DU sydd â diddordeb mewn darganfod sut ydym yn gweithio.
“Rydym hefyd yn cael ymholiadau gan heddluoedd tramor, gan gynnwys rŵan Heddlu Fictoria, Awstralia.
“Mae ein poblogrwydd yn cynyddu ar gyfryngau cymdeithasol ac ar hyn o bryd mae gennym ddilynwyr Trydar yng Nghanada, Awstralia a Seland Newydd – yn wir, yn ddiweddar cawsom 200 o ddilynwyr newydd mewn wythnos.
“Rwy’n meddwl ei fod yn wych bod Uwcharolygydd Gillard yn mynd i dreulio amser gyda ni ac rwyf hefyd yn ystyried ei ymweliad fel cyfle gwych i ni weld beth allwn ni ei ddysgu ganddo ef.” Meddai Uwcharolygydd Gillard: ““Mae fy ngwaith ymchwil wedi gwneud i mi ystyried strategaethau ac arferion Heddlu Gogledd Cymru, ac maent wedi cytuno i fy nghyfarfod a rhannu eu profiadau a’u gwybodaeth gyda mi.
“Fel rhan o fy nhaith byddaf yn ymweld â’r Heddlu Metropolitan, Heddlu Hampshire, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Cumbria a Heddlu Swydd Lincoln yn ogystal ag asiantaethau plismona yng Nghalifornia, Missouri, Alabama, Tennessee a Mississippi yn UDA.
“Mae Heddlu Fictoria, a’r cymunedau gwledig yr ydym yn eu gwasanaethu, ar hyn o bryd yn brwydro yn erbyn cynnydd mewn lladradau da byw, peiriannau, offer, tanwydd a chemegau.
“Yn 2010 mi wnaethom adnabod yr angen i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion cymunedau cefn gwlad yn well ac mi wnaethom sefydlu grŵp o Swyddogion Cyswllt Amaethyddiaeth.
“Maent yn bwynt cyswllt i ffermwyr ac eraill yn y gymuned wledig.”