North Wales Weekly News

Plant yn cynnig enw da ar gynllun cartrefi

-

BU plant creadigol yn cymryd rhan yn agoriad datblygiad gwerth £1 filiwn o dai newydd fforddiadw­y yn Llandudno.

Roedd disgyblion ar gyngor ysgol Ysgol Morfa Rhianedd ar frig y rhestr o westeion pwysig yn y seremoni ar ôl iddynt helpu i ddewis enw ar gyfer y naw tŷ dwy a thair ystafell wely gan gymdeithas tai Cartrefi Conwy ar Ffordd Maesdu.

Maent yn hapus iawn bod y datblygiad wedi’i enwi yn Llwyn Rhianedd, fel teyrnged o’u cyfraniad hwy, a chafodd eu cyfraniad ei gydnabod pan dderbyniwy­d siec am £200 i gronfa adnoddau’r ysgol, fel diolch gan Cartrefi Conwy.

Roedd 10 o’r disgyblion yn gweld Maer Llandudno, y Cynghorydd Frank Bradfield, yn torri’r rhuban glas i ddathlu agoriad y datblygiad.

Dywedodd y Pennaeth Paul Thomas,: “Bydd hyn yn rhywbeth y bydd y plant yn ei gofio am amser maith. Roedd bod yn rhan o’r datblygiad newydd yn broses ddiddorol iawn ac, ar wahân i helpu i ddewis ei enw, bu aelodau o dîm adeiladu’r cynllun yn ymweld â’r ysgol i drafod diogelwch ar safleoedd adeiladu gyda’r plant.

“Bu’r plant yn cymryd rhan mewn cystadleua­eth hefyd i ddylunio posteri yn dangos pwysigrwyd­d iechyd a diogelwch priodol ar y safleoedd hyn.”

Un o’r cynllunwyr ifanc oedd Maddison Bargate, 11 oed, o Landudno, a ddywedodd: “Mae’n wych bod yn agoriad swyddogol y cartrefi fy hun am fy mod i a phlant eraill ar gyngor yr ysgol wedi helpu i ddewis ei enw.

“Fe wnes i gymryd rhan yn y gystadleua­eth i ddylunio poster ac roedd fy mhoster i’n dangos bod yn rhaid i bobl fod yn ofalus ar safleoedd adeiladu a dilyn arwyddion diogelwch.”

Dywedodd aelod arall o gyngor yr ysgol, Theo McKernon, 10 oed, hefyd o Landudno: “Roedd y poster a gynlluniai­s ar gyfer y gystadleua­eth yn arwydd rhybudd ar ffurf pêl chwalu fawr.”

Cafodd y cartrefi newydd chwaethus eu hadeiladu gan Cartrefi Conwy.

Roedd y seren rygbi o Gymru a’r cyflwynydd teledu Rupert Moon yn bresennol yn agoriad y datblygiad newydd.

 ??  ?? Rhai o blant yr ysgol gyda Andrew Bowden o Gartrefi Conwy gyda Rupert Moon a’r prifathro Paul Thomas
Rhai o blant yr ysgol gyda Andrew Bowden o Gartrefi Conwy gyda Rupert Moon a’r prifathro Paul Thomas

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom