Osian yn cael blas ar fwyd a hwb i’w fusnes
wrthi’n treulio llawer o’i amser hamdden yn arbrofi gyda chynhwysion a blasau amrywiol er mwyn gwneud rysáit a ddiweddodd – dim ond cwta fis yn ôl – yn Nain 10.
Dywedodd: “Mi wnaeth yr ysfa yma i wneud y saws barbeciw perffaith gychwyn yn 2002 pan oeddwn i hefo fy ngwraig Kelly yn Florida yn ymweld â rhai o’i theulu hi yno.
“Maen nhw’n cael barbeciws anhy- goel yno – dim sosej wedi llosgi a byrgers amrwd y cewch chi yma, ond gwleddd o gigoedd wedi eu coginio’n ara’ deg ac wedi eu gosod allan yn dda gyda sawsiau diddorol a blasus.
“Unwaith yr oeddwn i’n ôl yn Sir Fôn mi fûm wrthi yn trio gwneud saws tebyg ac yn arbrofi gyda phethau gwahanol er mwyn trio cael y blas yn hollol iawn.
“Ar ôl dyfalbarhau dim ond yn ddi- weddar iawn yr ydw i wedi cael blas yr wyf i’n fodlon arno fo – ond wna’ i ddim dweud yn union beth sydd ynddo fo – mi gymerodd hi gymaint o amser i ddod o hyd i’r cynhwysion does arna i ddim eisio i neb yn ei gopïo fo!
“Yr unig beth ddyweda i ydi ei fod yn blasu’n felys a myglyd gyda mymryn o flas sbeislyd.”
Unwaith yr oedd Osian yn gwbl fodlon ar y blas ar gyfer Nain 10, penderfynodd y dylai ei rannu gydag eraill y tu allan i’w deulu a’i ffrindiau a oedd wrth eu bodd gyda’r saws.
Felly dyma droi am help at asiantaeth fenter leol a roddodd help iddo ac arian i ddatblygu’r cynnyrch a chyngor ar brofi a brandio.
Erbyn hyn mae Osian, gyda help Kelly, yn potelu’r saws fesul 200 potel y tro mewn cegin broffesiynol.