North Wales Weekly News

Prognosis da i Eisteddfod Llangollen

-

YN ôl meddyg teulu sydd wedi ei benodi’n gadeirydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen mae’r rhagolygon ar gyfer dyfodol yr ŵyl eiconig yn rhagorol.

Cafodd Dr Rhys Davies ei ethol yn gadeirydd mewn cyfarfod cyffredino­l arbennig i olynu Gethin Davies sydd wedi rhoi’r gorau i’r swydd ar ôl nifer o flynyddoed­d o wasanaeth.

Yn ystod yr Eisteddfod eleni, lansiwyd apêl i godi £70,000 i wneud iawn am y colledion a ragwelwyd oherwydd bod gwerthiant tocynnau’n siomedig – ac mae mwy na £40,000 wedi ei dderbyn yn barod.

Mae’r gwaith o gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf eisoes ar y gweill a chyhoeddwy­d mai Katherine Jenkins, y gantores glasurol, fydd prif seren y noson agoriadol. Bydd yn perfformio’r holl ariâu o’r opera, Carmen.

Meddai Rhys, 59 oed, meddyg teulu lleol adnabyddus yn Llangollen, fel ei dad o’i flaen, nes iddo ymddeol yn ddiweddar: “Mewn termau meddygol, mae’r eisteddfod ar i fyny ac mae’r prognosis yn rhagorol.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ein 70ain Eisteddfod y flwyddyn nesaf ac mae’n argoeli i fod yn un o’r eisteddfod­au gorau erioed.”

Dywed Rhys, sydd wedi ei eni a’i fagu yn Llangollen, ei fod wedi bod yn dod i’r ŵyl flynyddol bob blwyddyn ers ei fod yn ‘faban yng ngôl ei fam”.

Bu Dr Jack Davies, ei dad, yn feddyg teulu yn y dref am 30 o flynyddoed­d o 1955 ac am nifer o flynyddoed­d roedd cartref y teulu’n ffinio â chae’r Eisteddfod yn Dolafon Villas, yn agos at hen Ysbyty’r Bwthyn.

Mae Rhys, sydd bellach yn byw gyda’i deulu yn Pentrefeli­n House ers iddo golli ei rieni ganol y 1990au’n dwyn i gof: “Roeddem mor agos at y cae yn Nolafon fel yr oeddem yn gallu camu o’r ardd i’r Eisteddfod.

“Ers fy mod yn fachgen ifanc, rwyf wedi bod yn gwirfoddol­i yn yr ŵyl, yn cario negeseuon, gwerthu rhaglenni, yn ystlyswr a stiward.

“Gadewais yr ardal am rai blynyddoed­d tra oeddwn i ffwrdd yn y Brifysgol ac yn gweithio, ond roeddwn yn dal i ddychwelyd bob blwyddyn i’r eisteddfod nes i mi ddod yn ôl i fyw a gweithio yn Llangollen yn 1984 – gan ddod yn bartner hŷn yn y pen draw yn y feddygfa leol.

“Gyda’n problemau ariannol hysbys, rwy’n gwybod nad hwn yw’r cyfnod hawsaf i fod yn gadeirydd ond rwy’n edrych ymlaen at yr her.

“I sicrhau bod Llangollen yn mynd o nerth i nerth, byddaf yn gweithio’n agos iawn gyda’n prif weithredwr, ein cyfarwyddw­r cerddorol, y bwrdd sefydlog ac, yn hollbwysig, ein byddin fach o 800 o wirfoddolw­yr. Heb y rheini fyddai’r Eisteddfod ddim yn cael ei chynnal.”

 ??  ?? Dr Rhys Davies
Dr Rhys Davies

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom