Ymchwil arloesol sy’n datgelu tarddiad AIDS
MAE’R feirws HIV/AIDS wedi lladd mwy o bobl nag unrhyw feirws arall erioed – dros 40 miliwn ar draws y byd dros y 30 mlynedd diwethaf. Ond o ble daeth y feirws a sut y gwnaeth e ledu mor gyflym?
Mewn rhaglen ddogfen arbennig AIDS: Cyfrinach y Congo mae’r ymgynghorydd iechyd rhyw, Dr Olwen Williams o Lanelwy yn datgelu’r ymchwil arloesol sydd wedi llwyddo i ganfod tarddiad y feirws.
Mae’r rhaglen yn dilyn tîm o wyddonwyr rhyngwladol wrth iddyn nhw fynd ar drywydd gwreiddiau’r feirws yng Ngweriniaeth Ddemocratig y Congo a Chameroon yng Nghanolbarth Affrica.
Meddai Dr Williams: “Pan ddechreuais i yn fy ngyrfa yn yr 1980au doedd neb yn gwybod beth oedd yn achosi’r afiechyd newydd yma. Roedden ni i gyd yn credu mai afiechyd dynion hoyw oedd AIDS. Mi ddaeth stigma yn gysylltiedig yn fuan iawn â’r epidemig ac mae’r stigma’n dal i fod yna.”
Dywed Dr Dirk Teuwen, ymchwilydd meddygol o wlad Belg, sy’n arwain y tîm o wyddonwyr rhyngw- ladol sy’n ymchwilio i’r clefyd: “Roedden ni’n gwybod mai Kinshasa, prifddinas y Congo, oedd uwchganolbwynt HIV1. Kinshasa oedd y man cychwyn ond ble oedd gwraidd y feirws?”
Mae’r rhaglen yn datgelu bod cysylltiad rhwng hanes cythryblus y Congo yn y 60au â stori tarddiad AIDS. Mae hefyd yn datgelu bod y feirws wedi heintio pobl ymhell cyn i’r achosion cyntaf gael eu gweld yng ngwledydd y gorllewin.
Mewn ysbyty ym Mbanza-Ngungu, tref yng ngorllewin y Congo, mae’r criw o ymchwilwyr yn dod o hyd i hen samplau o gyrff y meirw mewn storfa. Yno maen nhw’n canfod tri sampl positif o AIDS yn dyddio nôl i’r 60au. Daeth y tîm i’r casgliad bod nifer enfawr o achosion o AIDS yn y Congo yn y 60au, a hynny yn ddiarwybod i neb.
Ond ble oedd y feirws cyn iddo gyrraedd y Congo? Mae’r rhaglen yn datgelu nifer o ffeithiau diddorol iawn. AIDS CYFRINACH Y CONGO: S4C, nos Fawrth, 9.30pm