North Wales Weekly News

Darpar arweinwyr yn dawnsio ar y dibyn

-

BYDD cyfres antur awyr agored newydd ar S4C yn cynnig cyfle un waith mewn bywyd i un person brwdfrydig newid gyrfa yn gyfan gwbl.

Bydd Ar y Dibyn, sy’n dechrau nos Iau, 8 Hydref, yn dilyn wyth cystadleuy­dd beiddgar yn cystadlu am swydd fel arweinydd antur mewn canolfan awyr agored yng Nghymru – diwydiant sy’n werth dros £400 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn.

Yr wyth yw Rhys Gethin, 31, o Chwilog; Gethin Wyn Jones, 25, o Ddeiniolen; Gethin Fôn, 31, Benygroes ger Caernarfon; Tomos Gwynedd, 24 o Gaernarfon; Enfys Wyn Griffith, 25, o Waunfawr; Rachel Granger, 45, o Ruthun; Hannah Hughes, 24, o Gaeathro; a Gwenllian Roberts, 35, o Fethesda Bach.

Yn ystod y gyfres bydd yr ymgeiswyr yn gorfod profi eu hunain mewn amrywiaeth eang o weithgared­dau awyr agored – o hwylio a chanŵio i ddringo, beicio mynydd a llawer mwy. Ond mi fydd eu personolia­ethau a’u sgiliau arwain hefyd yn hawlio sylw’r beirniaid, yr arweinydd antur Dilwyn Sanderson-Jones a’r gyflwynwra­ig ac anturia- ethwr, Lowri Morgan.

Mae Lowri Morgan yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, ond dyma’r tro cyntaf i Dilwyn dderbyn rôl mor flaenllaw ar y sgrin. O ddydd i ddydd mae’n rhedeg cwmni antur awyr agored ac mae wedi gweithio gyda thîm ffilmio Bear Grylls.

“Roedd ffilmio Ar y Dibyn yn brofiad anhygoel,” meddai Dilwyn SandersonJ­ones sy’n dod o Borthmadog yn wreiddiol. “Roedd yr ymgeiswyr wnaeth gymryd rhan yn wych. Roedd hi’n grêt ‘mod i’n cydweithio mor dda hefo Lowri hefyd – ac roedd hi’n gefn mawr i mi.

“Ond roedd hi’n anodd beirniadu a phenderfyn­u pwy oedd yn gorfod gadael y gystadleua­eth bob wythnos. Wrth i’r broses fynd yn ei blaen, ro’n i’n dod i ‘nabod yr ymgeiswyr, ac roedd hi’n mynd yn anoddach ac anoddach.”

Bydd yr enillydd yn cael swydd blwyddyn o hyd fel arweinydd awyr agored yn naill ai Canolfan Plas Menai neu yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn i enillydd y gyfres, thaith i ben mynydd uchaf Affrica, Kilimanjar­o.

Ar y Dibyn: S4C, nos Iau 9.30pm

 ??  ?? Lowri Morgan fydd un o gyflwynwyr y gyfres newydd Ar y Dibyn
Lowri Morgan fydd un o gyflwynwyr y gyfres newydd Ar y Dibyn

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom