Aled a’i gi ar Ffermio
YN ddiweddar cafodd hyfforddwr cŵn defaid gorau’r byd rôl amlwg wrth serennu mewn rhaglen deledu boblogaidd.
Roedd llygad y camera ar Aled Owen, o Dŷ Nant, ger Corwen, yn ystod y ffilmio ar gyfer cyfres amaeth a chefn gwlad S4C, Ffermio.
Aled oedd y dewis naturiol pan oedd criw Ffermio eisiau ffilmio tri o drelars Ifor Williams Trailers er mwyn rhoi sylw i’w cystadleuaeth flynyddol, lle caiff y trelars eu cynnig fel gwobrau arbennig.
Mae rhaglen Ffermio, sy’n cael ei darlledu ar S4C ar nos Lun am 9.30yh, wedi bod yn cynnal y gystadleuaeth trelars poblogaidd ar y cyd ag Ifor Williams Trailers ers nifer o flynyddoedd bellach, ac mae wedi profi’n llwyddiant mawr.
Roedd y gŵr 57 oed yn dal ar ben ei ddigon ar ôl cael pedwar llwyddiant nodedig yn ddiweddar, wedi iddo gael ei goroni yn Brif Bencampwr y Gymdeithas Cŵn Defaid Rhyngwladol, yn dilyn y gystadleuaeth yn Dumfries yn yr Alban.
Aled yw’r triniwr cŵn defaid cyntaf i ennill pedwar teitl Prif Bencampwr, ond ar ben hynny mae wedi llwyddo i gyflawni ei gamp hanesyddol mewn pedair gwlad wahanol gyda phedwar ci gwahanol, a’r diweddaraf ohonynt yw ei gi pedair oed, Llangwm Cap.
Daeth y teitl Prif Bencampwr cyntaf i’w ran yn 1999 gyda Roy ac enillodd eto y flwyddyn ganlynol gyda Bob. Daeth i’r brig unwaith yn rhagor yn 2007 gyda Young Roy.
Mae wedi ennill teitl y Prif Bencampwr bedair gwaith, ac mae hefyd wedi bod yn Bencampwr y Byd ddwywaith. Record cwbl unigryw ym maes trin cŵn defaid.
Yn ôl ym mis Awst, llwyddodd Aled a Llangwm Cap hefyd i ennill cystadleuaeth Genedlaethol Cymru.
Roedd y ddau wrth law er mwyn helpu i ddangos dafad yn cael ei llwytho ar drelar TA5, sef gwobr gyntaf cystadleuaeth y rhaglen, wrth i Ffermio ffilmio’r darn ar ei fferm deuluol lle mae’n bridio cŵn defaid.
Dywedodd: “Mae Ifor WilliamsTrailers yn gwmni lleol, dim ond chwe milltir o fy fferm, ac yn bersonol rwyf wedi defnyddio eu trelars ar hyd yr amser yn union fel y gwnaeth fy nhad a fy mrawd. Prynais drelar da byw 12 troedfedd yn 2008 ac mae’n dal i fod fel newydd ac mae wedi cael digon o ddefaid ynddi i lenwi Stadiwm y Mileniwm.”