Dydd y Farn i dimau Cymru
MAE bron i 1,000 o filltiroedd fel yr hed y frân rhwng Zenica yn BosniaHerzegovina a Twickenham, Llundain, ond bydd cefnogwyr rygbi a phêl-droed fel ei gilydd yn dathlu os bydd timau Cymru’n cael y canlyniadau sydd eu hangen arnynt ar Ddydd y Farn – 10 Hydref.
A gall cefnogwyr dros y Deyrnas Unedig wylio Awstralia yn erbyn Cymru’n fyw ar S4C o Twickenham yn y prynhawn gydag uchafbwyntiau gêm Bosnia v Cymru yn y nos ar y sianel ac ar s4c.cymru.
Os bydd tîm pêl-droed Cymru’n llwyddo i gael gêm gyfartal yn y Stadion Bilino Polje yn eu gêm yn Grŵp B, byddant yn cyrraedd eu twrnamaint mawr cyntaf ers 1958. Hyd yn oed os ydynt yn methu cael y canlyniad hwnnw oddi cartref, bydd tîm Chris Coleman yn cael cyfle arall yn erbyn Andorra yng wrn am 10.30pm a’r gorau o gêm Cymru v Andorra yr un amser ar nos Fawrth, 13 Hydref.
Yn Twickenham, bydd y gêm i’w gweld yn fyw ar Cwpan Rygbi’r Byd 2015: Awstralia v Cymru o 4pm gyda’r gic gyntaf am 4.45.
Mae cyflwynydd chwaraeon S4C, Gareth Roberts, o’r farn mai dyma un o’r diwrnodau mwyaferioed yn hanes chwaraeon Cymru.
Bydd Gareth yn Twickenham ar gyfer gêm Awstralia yn erbyn Cymru ac yna bydd yn ceisio dod ohyd i le i wylio gêm Bosnia v Cymru yn Llundain.
“Yng Nghymru, mae gennym ni ddwy gamp genedlaethol a heb os nac oni bai, bydd y penwythnos hwn yn