Yr amser gorau erioed i fusnesau recriwtio prentis
WRTH i ni ddathlu Wythnos Prentisiaethau, mae Llywodraeth Cymru am annog cyflogwyr o bob maint ar hyd a lled Cymru i ddysgu mwy am brentisiaethau a deall sut gallan nhw effeithio’n gadarnhaol ar gynhyrchiant eu busnes.
Mae recriwtio prentis yn haws nag erioed ac mae busnesau’n cael cymorth parhaus. Y cam cyntaf yw canfod fframwaith Prentisiaeth perthnasol sy’n cyfateb i anghenion eich busnes. Edrychwch ar wefan Porth Sgiliau Busnes Cymru i weld mwy o wybodaeth a rhestr o’r ddarpariaeth.
Os oes gennych ofynion ychwanegol ar gyfer hyfforddi prentisiaid, gall cyflogwyr gydweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith prentisiaeth sy’n diwallu eu hanghenion.
Bydd cyflogwyr yn cael eu paru â darparwr hyfforddiant lleol a fydd yn cynnig cyngor a chymorth.
Gellir hysbysebu prentisiaethau gwag ar Wasanaeth Paru Prentisiaid Gyrfa Cymru. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac yn galluogi cyflogwyr i ddod o hyd i ymgeiswyr sydd â’r cymwysterau, y profiad a’r sgiliau cywir yn gyflym.
Tra bo’r cyflogwr yn gyfrifol am dalu cyflog y prentis, bydd Llywodraeth Cymru’n talu’r rhan fwyaf o’r costau hyfforddi – gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Bydd y darparwr hyfforddiant yn trefnu proses asesu, cymhwyso a hyfforddi’r prentis.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Porth Sgiliau yn www.businesswales.gov.wales/ skillsgateway/cy neu ffoniwch 03000 6 03000. www.facebook.com/ apprenticeshipscymru Twitter: @apprenticewales