Dysgu seiliedig ar waith yn talu ar ei ganfed i brentis
MAE prentis TG arobryn o Gaerdydd yn elwa ar fanteision dysgu seiliedig ar waith ar ôl cwblhau prentisiaeth gyda SIPHON, rhan o’r Nuvias Group.
Cafodd Niall Perks gyfle i wneud prentisiaeth Lefel Dau - Gweithwyr Proffesiynol Meddalwedd TG, y We a Thelathrebu, ac mae bellach ar drywydd gyrfa lwyddiannus ym maes TG a datblygu meddalwedd.
Meddai: “Mae ennill wrth ddysgu wedi rhoi cryn dipyn o annibyniaeth ariannol i mi, felly er fy mod i’n byw gartref o hyd, rydw i’n gallu cynilo tua 75% o fy nghyflog misol ar gyfer rhoi blaendal ar dy”
Meddai Jeff Bevins, cyfarwyddwr gweithrediadau technegol yn SIPHON: “Mae’r prentisiaid yn awyddus iawn i ddysgu gwybodaeth ac mae hynny’n sbardun i’r uwch beirianwyr. Mae’n bwysig cael y cydbwysedd cywir ond rydw i’n gweld y rhaglen brentisiaeth fel rhan bwysig o dwf y cwmni.”
Mae Rhaglen Prentisiaethau Cymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Meddai Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan: “Dim ond un enghraifft o gwmni’n elwa ar y cyfle i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf yn y sgiliau arbenigol sydd eu hangen arno yw Siphon. Mae prentisiaethau’n fuddsoddiad allweddol i gyflogwyr ac yn gwneud cyfraniad pwysig at wella sgiliau a meithrin talent yng Nghymru gyfan.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut allai eich busnes elwa ar recriwtio prentis, ewch i’r Porth Sgiliau i Fusnes yn https://businesswales.gov.wales/ skillsgateway/cy/prentisiaethau neu ffoniwch 03000 6 03000.