Cwrdd â Thîm CNPT
Jamie Fenaroli, Gweithiwr Cymdeithasol, Tîm Cymunedol Plant Dyffryn
“Fe ymunais i ag Adran Gwasanaethau Plant CNPT fel Gweithiwr Cymdeithasol newydd Gymhwyso yn 2013. Fe ddes i’n Ddirprwy Arweinydd Tîm yn 2016 gan gychwyn fy rôl bresennol fel Rheolwr Tîm yn 2018. Dwi’n sylweddoli pa mor ffodus ydw i i fod yn gweithio mewn awdurdod lleol sy’n hyrwyddo, yn annog ac yn ymfalchïo yn natblygiad personol a phroffesiynol a dilyniant ei staff. Mae rhaglen hyfforddi helaeth a phrosesau ffurfiol ac anffurfiol i gefnogi a goruchwylio yn chwarae rhan ganolog yn hyn i gyd. “Y rhan orau o’m swydd i, heb os, yw gallu gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr o’r un anian ar bob lefel o’r gwasanaeth, pobl sy’n ymroddedig ac yn angerddol. Rydw i’n gwerthfawrogi fy ngyrfa yma a byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried rôl yma i wneud cais i ymuno â’n tîm.” Beth Parker, Rheolwr Prosiect Seilwaith Gwyrdd “Mae gweithio i’r cyngor yn wych; mae’n wirioneddol hyblyg ac mae’n teimlo’n dda cael gwneud rhywbeth dros eich cymuned leol. Roeddwn i’n arfer gweithio yn y sector preifat a’r gwahaniaeth yw nad ydych chi’n gwneud rhywbeth dros eich ardal leol yn y sector hwnnw. Yn y cyngor, rydych chi’n teimlo eich bod yn cael effaith mawr ac yn cymryd rhan mewn rhywbeth sy’n bwysig. “Mae yna gymaint o rolau swydd yn y cyngor - rydw i’n gweithio yn y tîm bywyd gwyllt sy’n un sector bychan iawn yn y tîm cefn gwlad, sy’n rhan fwy o dîm arall. Mae cymaint o ddewis o yrfâu fel bod modd i chi symud o swydd i swydd a chael ehangder mawr o brofiad.”
Anthony Boyle, Tîm Iechyd Cymhleth, Anghenion Arbennig Brynamlwg
“Rydw i wedi gweithio i’r awdurdod lleol am ryw 18 mlynedd bellach, gan gychwyn fel gweithiwr iau fel gweithiwr gwasanaeth dydd. Fe symudais i fyny’r ysgol a’r rolau gyda hyfforddiant mewnol ac allanol. “Os ydych chi’n meddwl am gael gyrfa o fewn y diwydiant gofal, byddwn yn eich annog i ymuno â’r awdurdod lleol gan ei fod yn cynnig llawer o gefnogaeth i chi, hyfforddiant arbennig, yn allanol a hyfforddiant mewn swydd a byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi’n fawr gan y cyngor.”
Lucas Williams, Arweinydd Tîm Anghenion Masnachr
“Fe gychwynnais fel Swyddog Safonau Masnach dan hyfforddiant ac mae’r cyngor wedi rhoi gyrfa i mi a dwi wedi dringo’r ysgol i ddod yn arweinydd tîm yr adran safonau masnach. Mae’r cyngor wedi talu am fy holl hyfforddiant a’m datblygiad personol. “Mae CNPT yn gefnogol iawn i’w staff. Byddan nhw’n eu helpu i ddatblygu, a byddan nhw’n eu helpu i ddatblygu’n weithwyr proffesiynol fel yr ydw i wedi’i wneud a byddan nhw’n helpu eu datblygiad personol o fewn eu proffesiwn hefyd, er mwyn iddyn nhw allu gwireddu eu huchelgeisiau.”
Lloyd Harris, Hyfforddai, Prosiect Mawndiroedd Coll
“Fe astudiais i Ddaearyddiaeth yn y brifysgol ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd cael swydd amgylcheddol yn yr ardal. Yna fe welais i’r cyfle hwn ar wefan y cyngor. Doedd o ddim y math o swydd y byddwn i wedi disgwyl i’r cyngor ei gael. “Rydw i wedi bod i fyny mynyddoedd, i mewn i ysgolion gan addysgu plant, ac yn gyffredinol cael llawer o brofiad yn y sector amgylcheddol. Fe ges i syndod i weld y gwahanol fathau o swyddi yr oedd y cyngor yn eu cynnig ar draws nifer o sectorau nad oeddwn i wedi ystyried y bydden nhw’n rhan ohonynt. Mae wedi bod yn gyfle gwych i mi gael cychwyn yn fy newis gyrfa.” Nita Sparkes, Gwasanaethau Digidol
“Fe ymunais i â’r cyngor 18 mlynedd yn ôl pan oedd fy mhlant yn ddwy a phedair oed. Roeddwn i’n gallu manteisio ar y cynllun oriau hyblyg oedd yn golygu mod i’n gallu mynd â nhw i’r ysgol ac wedyn roeddwn i’n eu casglu unwaith yr wythnos oedd yn wych. “Yn ffodus, mae gennym ni fwy nag un lleoliad sy’n golygu y gallai un neu ragor o’n hadeiladau fod yn hygyrch i chi gan ddibynnu lle rydych chi’n byw. Rydw i wedi bod yn ffodus i fyw rhwng y ddau leoliad mawr felly rydw i wedi gallu beicio i’r gwaith mewn 10 munud. Mae gennym ni loceri a chawodydd yma a ddaeth drwy ymgynghori â’r staff. Maen nhw’n gwrando ar yr hyn rydyn ni ei angen.”
Shelby Martone, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol
“Dydw i ddim yn dod o Gastellnedd ond pan fydda i’n dod i’r gwaith rydw i’n mwynhau cerdded o gwmpas y dref. Mae’n braf gwybod eich bod chi’n helpu’r bobl sydd o’ch cwmpas chi. Mi fyddwn i’n bendant yn annog unrhyw un i wneud cais am swydd gyda’r cyngor. Mae ganddyn nhw gymaint o fuddion i gydweithwyr - mae dilyniant yma a sefydlogrwydd. Mae’n swydd am oes ac mae’n agor cymaint o ddewisiadau ar eich cyfer.”