South Wales Evening Post

Croeso i Dîm CNPT - Ymunwch â ni a chreu gyrfa y byddwch yn ei charu

-

Gan Karen Jones, Prif Weithredwr Cyngor CNPT

Yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot rydym yn gofalu am ranbarth mawr, amrywiol a chymhleth yng Nghymru. Ond mae’n dull o gwrdd ag anghenion ein 140,000 o drigolion a dros 3,000 o fusnesau yn un syml. Rydyn ni’n recriwtio pobl gydweithre­dol a thalentog ac yn cynnig cyfleoedd iddyn nhw wneud cyfraniad ystyrlon. Mae Tîm CNPT yn cynnwys tua 6,500 o bobl sy’n darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n trigolion a’n busnesau lleol. Rydyn ni’n darparu cyfleoedd gwaith cynhwysol ac rydyn ni am * i Gyngor CNPT fod yn fan lle mae pobl eisiau gweithio a symud eu gyrfaoedd ymlaen gyda ni. Mae gennym ddiddordeb mewn cyflogi pobl sy’n dod â’u syniadau, eu hangerdd a’u hymrwymiad llwyr i wneud eu gorau glas dros ein cymunedau yma yn CNPT. Yn gyfnewid, gallwch ddisgwyl cael y gefnogaeth gan eich rheolwr llinell a’ch cydweithwy­r. Gallwch ddisgwyl i ni roi cyfleoedd dysgu a datblygu i chi. Gallwch ddisgwyl gallu symud eich gyrfa ymlaen yma - mae’n debyg nad y swydd y byddwch yn cychwyn arni fydd y swydd y byddwch yn ei gwneud wrth i chi symud ymlaen yn eich gyrfa. Gallwch hefyd ddisgwyl i gael eich parchu a’ch trin yn gydradd o fewn ein sefydliad. Rydym eisiau croesawu pobl o bob cefndir. Rydym yn sefydliad cynhwysol ac rydym eisiau gwneud i bawb deimlo fel aelod pwysig a chyfartal o’r tîm. Mae pethau’n newid yma a gallwch chi fod yn rhan fawr o’r ymdrech yma i newid. Ymunwch â ni ac fe gewch eich cefnogi i ennill sgiliau newydd ac i adeiladu gyrfa lwyddiannu­s mewn gweithle amrywiol a chynhwysol. Cewch fod yn sicr ein bod ni gyda chi ar hyd y ffordd yn cynnig mwy o gyfleoedd, mwy o ddatblygia­d a mwy o gefnogaeth. Waeth beth yw eich swydd, rydyn ni eisiau i chi ddod â’ch syniadau, eich barn a’ch safbwyntia­u unigryw. Oherwydd mae’r hyn sy’n eich gwneud chi’n unigryw yn ein gwneud ni’n well. Edrychaf ymlaen at eich croesawu i Dîm CNPT.

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom