The Pembrokeshire Herald

UAC yn cyfarfod â Gweinidogi­on newydd Cymrud

-

Mae Undeb Amaethwyr Cymru ( UAC) wedi cyfarfod â Phrif Weinidog newydd Cymru, Vaughan Gething ac Ysgrifenny­dd newydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Newid Hinsawdd,

Huw Irranca- Davies, i drafod dyfodol y diwydiant amaeth.

Wrth drafod wedi’r cyfarfod, dywedodd Llywydd UAC, Ian Rickman: “Rydym yn croesawu’r cyfle cynnar hwn i amlinellu’r heriau presennol sy’n ein hwynebu fel diwydiant ac i drafod y camau nesaf posibl gyda’r Prif Weinidog newydd ac Ysgrifenny­dd y Cabinet yn dilyn ein cais am gyfarfo

“Fe ddywedom yn gwbl glir bod yr ymdeimlad o rwystredig­aeth a phryder o fewn y diwydiant yn parhau, a chawsom y cyfle i gyflwyno ein hymateb ystyrlon i’r ymgynghori­ad Cynllun Ffermio Cynaliadwy a rhestr o’r pwyntiau allweddol i Ysgrifenny­dd y Cabinet.”

Ychwanegod­d Dirprwy Bennaeth Polisi UAC, Gareth Parry: “Rydym hefyd yn croesawu’r gydnabyddi­aeth a’r gwerthfawr­ogiad gan y Prif Weinidog ac Ysgrifenny­dd y Cabinet o’r sefyllfa bresennol rydym yn ei hwynebu. Mae hwn yn gam cyntaf hollbwysig i ddeall difrifolde­b y problemau a wynebwn gan ddod o hyd i’r ffordd orau ymlaen i fynd i’r afael â’r heriau hynny.

“Rydym am weld sefydlu grŵp rhanddeili­aid bychan gyda’r ffocws ar drafod a chynnig newidiadau i’r cynllun trwy gydgynllun­io go iawn,” meddai.

Ychwanegod­d y Llywydd Ian Rickman: “Mae ad- drefnu diweddar y Llywodraet­h yn sicr yn newyddion cadarnhaol i’r diwydiant gan ei fod yn cyflwyno cyfle newydd ar gyfer newid ystyrlon i’r cynigion presennol. Edrychwn ymlaen at gyfarfodyd­d rheolaidd ag Ysgrifenny­dd y Cabinet, a’r Prif Weinidog, i sicrhau bod fersiwn derfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cyflawni datrysiada­u go iawn i ffermwyr Cymru.”

 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom