The Pembrokeshire Herald

Sioe seicedelig yn coffáu Ymgyrch Julie

-

GADAWYD cynulleidf­aoedd y llynedd wedi eu syfrdanu wedi profi’r sioe gerddorol unigryw Operation Julie

Dros bedwar degawd yn ôl, roedd cefn gwlad Gorllewin Cymru yng nghanol y “byst” cyffuriau mwyaf erioed. Arweiniodd ymchwiliad yr heddlu,

Operation Julie, at arestio dwsinau o bobol, a darganfydd­iad o gyflenwad o LSD gwerth £100 miliwn.

Gwanwyn nesaf, bydd drama gerdd hynod lwyddiannu­s Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddyda­u Aberystwyt­h yn dychwelyd, ac yn archwilio’r stori o’r ddwy ochr – o lygaid yr heddlu, a hefyd yr hipis a oedd wedi ymgartrefu yng Ngorllewin Cymru yn y gobaith o ledaenu eu syniadau mewn byd a oedd yn newid o’u cwmpas.

Mae’n bleser gan y cyd-gynhyrchwy­r gyhoeddi bod llawer o’r cast gwreiddiol yn dychwelyd, gyda Dan Bottomley yn ymuno’r cast fel Alston ‘Smiles’ Hughes ar gyfer taith gyfyngedig o 8 wythnos fydd yn ymweld â theatrau ledled y wlad.

Mae Operation Julie yn ddrama gerdd sydd yn fwrlwm o ganeuon, drama a chomedi, ac yn adrodd hanes rhyfeddol yr hyn a ddigwyddod­d yng Ngorllewin Cymru a’r cyffiniau yng nghanol y 1970au, pan ymgartrefo­dd hipis yn yr ardal yn chwilio am ffordd newydd o fyw, wedi ei hysbrodoli gan asid ac agwedd amgen at fywyd.

Pan ddarganfyd­dir cliw, ar hap, yn dilyn damwain car, aiff yr heddlu lleol ati ynghyd â ditectifs o bob cwr o Brydain i archwilio achos sy’n troi allan yn y diwedd i ymwneud â’r stash mwyaf o asid a ddarganfuw­yd erioed, sydd yn dileu hyd at 60% o gyflenwad LSD y byd ar y pryd.

Ymhlith y prif gymeriadau mae

Richard Kemp a Christine Bott, cwpl sy’n byw ger Tregaron ac sydd wedi dod o hyd i ffordd o wneud yr LSD puraf welwyd erioed, a’r deliwr twyllodrus, Smiles, sy’n byw yn Llanddewi Brefi.

Mae fersiwn Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddyda­u Aberystwyt­h o’r digwyddiad­au yn dilyn y stori o ddwy ochr y gyfraith, yn dilyn ymchwil yr awdur a’r cyfarwyddw­r Geinor Styles, a aeth ati i gyfarfod a chyfweld ag amrywiaeth o bobl o’r cyfnod, gan gynnwys un o’r prif werthwyr asid, Alston ‘ Smiles’ Hughes –a oedd yn rhan allweddol o’r gadwyn LSD o’i gartref cymedrol yn Llanddewi Brefi – ac Anne Parry, gwraig y diweddar Dditectif Ringyll Richie Parry.

Mae Operation Julie yn ddrama gerdd, ffurf y mae’r cwmni sydd, yn ôl aelod o’r gynulleidf­a, “byth yn methu â chreu argraff”, yn hoff iawn ohoni.

Greg Palmer yw Cyfarwyddw­r Cerdd Operation Julie a bu’n trafod chwaeth gerddorol seicedelig Smiles a’r recordiau a ddylanwado­dd arno gydag e yn ystod cyfnod creu’r ddrama.

“Cyfeiriodd Smiles at nifer o fandiau’r cyfnod – Caravan, Hawkwind, Incredible String Band. Ers dechrau’r broses, rydw i wedi bod yn hynod o awyddus i adlewyrchu tuedd gerddorol y cyfnod ym myd sain y ddrama, gan gynnwys bandiau Cymraeg gwych y cyfnod megis Budgie a Man.”

Yn siarad heddiw, dywed Alston ‘Smiles’ Hughes fod y mudiad asid wedi ymwneud cymaint â ffordd o fyw cynaliadwy ac ymrwymiad i achub y blaned ag yr oedd yn ymwneud â theithiau seicedelig: “Roedden ni’n codi’r faner ac yn dweud edrychwch, edrychwch, mae hyn yn argyfwng.

“Ry’n ni [bodau dynol] yn gwario cyfalaf y byd, ‘dyn ni ddim yn byw oddi ar y llog, ry’n ni’n gwario’r cyfalaf. Ac edrychwch ar gyflwr y byd nawr. Dylen nhw fod wedi gwrando – dylen nhw fod wedi blydi gwrando… Ar y pryd [yn y 1970au], roedd yna dal y cyfle a’r amser i newid. Fe allen ni fod wedi newid llawer o bethau yn y gymdeithas, ac yn lle hynny aethon ni i’r ffordd arall, ar ein pennau i brynwriaet­h fyd-eang.”

Mae Smiles yn gobeithio bod y ddrama’n adlewyrchu difrifolde­b ei ddyheadau ar y pryd, ond hefyd y llawenydd o fyw trwy gyfnod cyffrous: “Roedd yn amser bendigedig. Fe gawson ni gymaint o hwyl, gredech chi byth !”

 ?? ??
 ?? ??
 ?? ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom