Datgelu enillwyr rhagoriaeth busnes mewn seremoni wobrwyo!
CAFODD arweinwyr disglair cymuned busnes Pen-y-bont ar Ogwr eu dathlu yn seremoni a chinio Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2016 yn ddiweddar. DAETH bron i 180 o bobl fusnes at ei gilydd yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr, Pen-y-bont ar Ogwr i ddarganfod pwy oedd yr enillwyr hollbwysig yn y bedwaredd seremoni gwobrau busnes blynyddol a gefnogwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Rockwool. Dyma enillwyr bob categori: ‘Myfyriwr Busnes y Flwyddyn’ – Christopher Lloyd, Whatchrisdoes
‘Busnes Newydd y Flwyddyn’ – The Food Shed CIC
‘Busnes Gwasanaeth y Flwyddyn’ – Smart Education Wales Ltd
‘Entrepreneur y Flwyddyn’ – Jay Ball, Datakom Ltd
‘Busnes Gweithgynhyrchu y Flwyddyn’ – Customised Sheet Metal Ltd
‘Busnes Twristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn’ – Gwesty Coed-yMwstwr
‘Busnes Arloesol y Flwyddyn’ – Spectrum Technologies Plc
‘Gwobr Diwydiannau Creadigol’ – Wales Interactive Ltd
Enillydd y teitl anrhydeddus ‘Busnes Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn 2016’ oedd The Food Shed. Meddai Warren Dudding, Cyfarwyddwr Marchnata Rockwool, prif noddwr y gwobrau eleni: “Roeddem ni yn Rockwool wrth ein boddau yn noddi Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2016. Cawsom y fraint o gyflwyno Gwobr Busnes Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn i The Food Shed, menter ragorol sy’n cynnig gwasanaeth dosbarthu prydau ar hyd a lled Pen-ybont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot. Yn ogystal â cheisio cefnogi byw yn iach a byw’n annibynnol, mae hefyd wedi datblygu partneriaeth â Charchar Arolygiaeth Ei Mawrhydi Parc i ddarparu hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith i garcharwyr i’w helpu i gael cyfleoedd cyflogaeth ar ôl cael eu rhyddhau. Maent yn enghraifft wych o sut y gall busnes gyflawni gwerth cymdeithasol, a dymunwn bob llwyddiant i’r fenter wrth iddynt dyfu.’
Meddai Roxane Dacey, Rheolwr Gyfarwyddwr The Food Shed CIC: “Roedd ennill ‘Busnes Newydd y Flwyddyn’ a ‘Busnes Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn 2016’ yn brofiad swrrealaidd ac emosiynol, ond yn anad dim, yn gwbl ragorol! Rydym mor falch o’r hyn yr ydym ni wedi’i gyflawni hyd yn hyn a bydd y wobr hon yn cyfrannu at wella ein gwasanaeth, ein cynaliadwyedd a’n datblygiad yn y dyfodol.
“Roedd hi’n noson wych ac yn gyfle arbennig i ni ddiolch i’n staff am roi’r fath wasanaeth; sef gwasanaeth pwysig i oedolion hyˆn ac agored i niwed wedi’i ddarparu gan dîm gofalgar a thosturiol.
“Diolch i bawb sy’n aelod o dîm gegin ‘The Shed’ yng Ngharchar Parc (G4S) am fod yn bartneriaid mor wych, ymrwymedig sy’n gweithio mor ddiwyd i gynhyrchu ein prydau blasus o safon.”
Cyflwynwyd gwobr newydd eleni; ‘Gwobr Cymeradwyaeth y Noddwr 2016’. Cyflwynwyd y wobr i Spectrum Technologies Plc gan Noddwr Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, Carwyn Jones AC.
Meddai Carwyn: “Dyma noson wobrwyo hynod lwyddiannus arall a hoffwn innau longyfarch yr holl enillwyr. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw busnesau, yn gyflogwyr ac yn rhoi hwb i’r economi leol hefyd. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ddathlu ein busnesau lleol llwyddiannus a chydnabod eu buddsoddiad parhaus yn y bobl a’r economi leol. Roeddwn i hefyd wrth fy modd yn cyflwyno Gwobr Cymeradwyaeth y Noddwr gyntaf erioed.”
Meddai Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Mel Nott, OBE: “Gallaf ddweud heb flewyn ar dafod ei bod yn fraint o’r mwyaf i ni yn y fwrdeistref sirol hon fod yn gartref i gynifer o fusnesau rhagorol.
“Mae’r gwobrau hyn wedi amlygu sefydliadau byd-eang mawr hir sefydledig â hanes o lwyddiant megis Spectrum Technologies Plc, yn ogystal â busnesau iau, dynamig fel The Food Shed CIC, sy’n dechrau yn ar eu taith fel busnes newydd ac sydd eisoes yn cyfrannu’n sylweddol at yr economi leol.
“Mae’r cyngor yn ymrwymedig i feithrin menter yn y fwrdeistref sirol ac rwy’n falch ein bod yn gallu chwarae ein rhan, trwy’r cymorth sylweddol yr ydym yn ei roi i alluogi gwaith gwerthfawr Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr i barhau.”
Meddai Ian Jessopp, Cadeirydd Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr: “Efallai ei bod yn swnio’n cliché, ond unwaith eto, mae ansawdd a safon pawb a gymerodd ran yng ngwobrau eleni, nid dim ond yr enillwyr, wedi creu argraff fawr arnom. Mae rhagoriaeth yn parhau i fod wrth galon y gwobrau hyn, gan ddatgelu perlau cudd yn ein cymuned busnes, yn codi mentrau uwchlaw eu cystadleuwyr ac yn profi eu bod yn haeddu pob cydnabyddiaeth.
“Y busnesau hyn yw asgwrn cefn ein heconomi, sy’n cynnig buddsoddiad, cyfleoedd gwaith a refeniw y mae eu dirfawr angen i’r economi leol. Hoffwn ddymuno llwyddiant parhaus i bob un ohonynt yn y dyfodol.”
Sian Lloyd, gohebydd newyddion y BBC oedd llywydd y seremoni a noddwyd gan Rockwool, Berry Smith Lawyers, Coleg Penybont, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Business in Focus, EEF The Manufacturer’s Organisation, Cyllid Cymru, Graham Paul Chartered Accountants, Handelsbanken, kksolutions, United Graphic Design ac SME Finance Partners.
Cafwyd casgliad elusennol at elw Apêl Elusennol y Maer 2016/17, a chodwyd cyfanswm o £780 ar gyfer elusennau enwebedig eleni, sef: Ysgol Haf Heronsbridge, Pen-y-bont ar Ogwr, Sefydliad Aren Cymru, Ysbyty Tywysoges Cymru a Gofal Croesffyrdd, Pen-y-bont ar Ogwr.
I gael rhagor o wybodaeth am y fforwm ac i weld y lluniau a’r fideos swyddogol o noson Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2016, ewch i: www.facebook. com/bridgendbusinessforum neu dilynwch ni ar Twitter @ bridgendforum.