Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

WRTH glywed yr hanes am Mike Towell, y bocsiwr a fu farw yn dilyn gornest yn erbyn y Cymro Dale Evans, aeth fy meddwl yn ôl at focsiwr arall a gollodd ei fywyd.

Ac er bod yna gerflun ym Merthyr i gydnabod ei gamp fel bocsiwr, tybed nad fel “merthyr” go iawn ym Merthyr y caiff Johnny Owen ei gofio yn bennaf.

Mor wag oedd rhai o’r enwau a roddwyd i Owen fel y “bantam bionic” neu’r “Merthyr matchstick” o gofio mor denau ydoedd o gorff.

A dyma ni unwaith eto yn ôl yn trafod marwolaeth un arall yn llawer rhy gynnar yn 25 oed.

Cawsai ei alw yn “Iron” Mike Towell ond mewn gwirionedd, does yr un dyn byw wedi ei wneud o haearn.

Nid dyma’r tro cyntaf i mi ysgrifennu yn erbyn paffio fel gweithgare­dd amheus yn fy marn i, o gael ei weld fel rhan o fyd chwaraeon.

Yn fy myw, fedrai i ddim deall apêl paffio na deall ychwaith pam y byddai dau berson am geisio pwnio ei gilydd nes bod un ohonynt yn ei hyd ar lawr heb allu codi i’r dyfarnwr sydd uwch ei ben yn cyfrif i fyny at 10.

Mae synnwyr cyffredin yn dweud y bydd rywun, hwyr neu hwyrach, y tu hwnt i glywed unrhyw rhifyddeg.

Rwy’n teimlo’n flin am Dale Evans wrth gwrs ac mae’n gyfnod anodd iddo yntau o ganlyniad i’r frwydr. A’r ennill yn debycach i’r teimlad o golli, efallai?

A dyna ddod at syndod arall i mi a rhywbeth rwyf eto wedi ei nodi, fwy nag unwaith, yn y golofn hon sef pa mor galed yw rygbi a’r effeithiau y mae’n gadael ar y sawl sy’n ei chwarae.

Dyna gyfaddefia­d Shane Williams, ei fod yn cael pennau tost ac yn colli ei gof, dros dro, ryw ychydig.

O leiaf, fel y noda, mae gwell dealltwria­eth yn awr o beth yw ysgytiad a’i oblygiadau a rheolau newydd meddygol mewn lle. Gobeithio yn wir eu bod yn ddigonol.

Byddai rhai’n datgan bod i bob chwaraeon ei beryglon boed yn seicolegol neu’n gorfforol.

Ar hyn o bryd perygl mwyaf tîm pêl-droed Abertawe yw gorfod ymdopi gyda rheolwr newydd eto, ar ôl i Guidolin gael ei ollwng.

Mae rhywun yn teimlo drosto, yn enwedig â’r chwarae ar y cae wedi gwella, er, wrth gwrs y pwyntiau sy’n rheoli popeth.

Does ond gobeithio y bydd Bob Bradley yn ddewis da fel ei olynydd.

Byd creulon yw byd chwaraeon, i reolwr neu baffiwr. Mae eisie’r pen mewn ystyr arall hefyd, sef doethineb. Ond weithiau dyw’r pen ychwaith ddim yn ddigon gwydn i ddal pob ergyd.

Mae’r Athro Menna Elfyn yn Gyfarwyddw­r Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom