Rhowch hwb i’ch busnes gyda phrentisiaethau
GYDAG Wythnos Prentisiaethau (6-10 Mawrth) yn prysur agosáu, anogir busnesau o bob maint i gydnabod manteision rhoi cyfle i brentisiaid a’r cyfraniad amhrisiadwy y gallant ei gael ar roi hwb i economi Cymru.
Mae llawer o sefydliadau ymhob cwr o Gymru yn wynebu problemau diffyg sgiliau a phroblemau recriwtio, a all arwain at broblemau tanberfformiad a’u gweithlu yn cael ei roi dan bwysau.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau i bob oedran dros y pum mlynedd nesaf er mwyn sicrhau bod gan weithlu Cymru yn y dyfodol y sgiliau sydd eu hangen i helpu’r wlad i gystadlu ar lwyfan byd-eang.
Gydol Wythnos Prentisiaethau, bydd darparwyr dysgu yn y gwaith, sefydliadau hyfforddi, colegau ac ysgolion yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau wedi’u hanelu at unigolion a busnesau ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydlynu ymgyrch ar draws sawl sianel i hyrwyddo manteision busnes recriwtio prentisiaid ac mae wedi tynnu sylw at gyfres o astudiaethau achos sy’n esiamplau da, gan fusnesau mawr sydd wedi eu hen sefydlu, fel GE Aviation, Tata Steel ac EE, ynghyd â chyflogwyr llai fel Real SFX, Wholebake a Folly Farm. Mae’r cwmnïau hyn yn arwain y ffordd gyda’u rhaglenni prentisiaeth a byddwn yn tynnu sylw at eu straeon er mwyn ceisio ysbrydoli busnesau eraill i roi cynnig ar brentisiaethau.
Mae’r Rhaglen Prentisiaethau yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Borth Sgiliau i Fusnes yn www.businesswales.gov.wales/ skillsgateway/cy neu ffoniwch 03000 6 03000.