WELSH COLUMN
MAE’N bosib iawn mai’r bobol sydd â mwya’ o ofn ysbryd ydi’r rhai sydd heb erioed weld un. Mae’r hyn sydd yn y dychymyg yn aml yn waeth na dim sy’n bod go iawn. Ac fel yna y mae hi hefyd gyda mewnfudwyr.
Does dim yn anarferol i glywed pobol cefn gwlad yn dweud eu bod nhw’n poeni am fod “y wlad” yn cael ei meddiannu gan “bobol ddierth”, a hynny fel rheol yn cyfeirio at bobol o hil wahanol.
Hynny er nad ydi llawer o’r achwynwyr brin wedi gweld person du neu Asiaidd, heb sôn am ddod i’w nabod.
Hynny’n wahanol i ddyn a gafodd sylw yn y papurau newydd y diwrnod o’r blaen.
Americanwr pybyr, un o gefnogwyr eiddgar yr Arlywydd Donald Trump a, than ychydig fisoedd yn ôl, yn ddyn oedd yn casáu Mwslemiaid.
Mae hynny bellach wedi newid. Mi ddaeth teuluoedd o ffoaduriaid Mwslemiaid i fyw yn yr un bloc o fflatiau ag o ac mi newidiodd ei feddwl.
Chwarae teg, mi gynigiodd eu helpu, mi ddaeth i’w nabod nhw a dod i sylweddoli nad oedden nhw’n wahanol i bobol gyffredin eraill.
Efallai fod yna fymryn o eironi mai diolch i Dduw yr oedd yr Americanwr am y newid meddwl, yn hytrach nag i Mohammed, ond y canlyniad oedd yn bwysig.
Diolch byth, petaen ni’n byw ymhlith pobol o hiliau a chefndiroedd gwahanol, a nhwthau’n byw yn ein plith ni, dw i’n sicr y byddai’r rhan fwya’ o bobol yn dysgu i gyd-fyw a mwynhau diwylliannau ei gilydd.
Fel y dywedodd y bardd Waldo Williams, mae goleuni cyfeillgarwch yn llamu o lygad i lygad... dim ond i’r llygaid gael y cyfle i gwrdd.
Ofni’r dieithr yr yden ni yn aml ac, felly, pan fydd y dieithr yn dod yn gyfarwydd, mae’r ofn yn diflannu hefyd.
Beth bynnag sy’n digwydd o ran trafodaeth am fewnfudo, ar un llaw, a ffoaduriaid, ar y llall, mae’n rhaid i honno ddigwydd heb gasineb na rhagfarn.
Am bob math o resymau mae symud poblogaeth yn ffenomenon fwy nag y buodd hi erioed ac mae hynny’n debyg o gynyddu – o fod ar raddfa gymharol leol i sgubo rhwng gwledydd ac ar draws cyfandiroedd.
Mae’n rhaid trio dadansoddi pam a sut y mae hyn yn digwydd ac a ydi o’n gwneud drwg neu les, yn economaidd, yn gymdeithasol neu’n ddiwylliannol, i ba raddau ac i bwy. Trafodaeth onest, agored, gan dderbyn bod yr amodau y tu cefn i fudo yn effeithio arnon ni i gyd.
O dan amodau felly, mae gan y cymunedau sy’n derbyn hawliau a barn, yn union fel y bobol sy’n cyrraedd. Ond hawliau a barn wedi eu seilio ar ddeall, nid anwybodaeth. Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360