Ansicrwydd yn bygwth dyfodol y diwydiant
CEIR arddeall fod y gair Brexit yn cael ei grybwyll yn amlach yn lleol ac yn fyd eang y dyddiau yma nag unrhyw air arall, er fod yr enw Trump yn ei sodli’n agos.
Rhaid cydnabod fod y cyhoedd erbyn hyn mewn gwell sefyllfa i bwyso a mesur goblygiadau Brexit.
Yn ystod ymgyrch y refferendwm, clywid llawer o ffeithiau disail gan y ddwy ochr.
Erbyn hyn mae nifer o bobl wedi sylweddoli pa mor bwysig oedd y penderfyniad i adael neu aros yn aelodau.
Yn ôl un pôl piniwn, byddai’r sefyllfa erbyn hyn yn wahanol yng Nghymru.
Mae yna fanteision ac anfanteision i’r ddwy ochr, gyda rhai pobl yn gwbl argyhoeddedig y byddwn yn clodfori’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y tymor hir.
Yn ôl yr arwyddion presennol, trwy adael, bydd yna fygythiadau llym i fusnesau bach a’r fferm deuluol yng nghefn gwlad Cymru.
Golyga dorri i ffwrdd o’r farchnad sengl a allai fod yn drychinebus i’r diwydiant amaethyddol.
Mae’r diwydiant amaeth yng Nghymru yn allforio 90% o’u cynnyrch, 40% o hynny yn gig oen, i wledydd o fewn yr Undeb Ewroopeaidd.
Mae gwerth yr ŵyn sy’n cael eu hallforio o Brydain
i’r UE werth £300,000 yn flynyddol.
Trwy dorri i ffwrdd, daw’r farchnad hon i ben gan golli 500 miliwn o gwsmeriaid yr UE sydd ar ben stepen ein drws.
Bydd rhaid cysylltu â marchnadoedd y byd; gwledydd sydd eisoes yn gystadleuol o ran eu cynnyrch ac yn medru cynhyrchu bwyd llawer rhatach, heb ddod i fyny at safonau’r wlad yma.
Golyga pellennig enfawr.
Pan fydd y Llywodraeth yn dechrau ar y trafodaethau i adael yr UE, deallir mai un o’r materion cyntaf fydd penderfynu ar y swm fydd yn rhaid i Brydain ei dalu i ddadymaelodi.
Mae’r comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi y gall y tal fod cymaint â £52bn.
Bydd tanio Erthygl 50 yn golygu ffrwydrad a all amddifadu cenhedlaeth gyfan o bobl ifainc o’r bwriad a’r awydd i ffermio, a hynny ar sail ansicrwydd.
Ansicrwydd marchnad a phris eu cynnyrch. allforio gostau i wledydd ychwanegol