WELSH COLUMN
YN ôl Crwys yn ei gerdd am y border bach, roedd hi’n bosib dweud llawer am gymeriad ei fam o edrych ar y planhigion oedd ganddi’n tyfu yn ei gardd – planhigion ymarferol, di-sioe.
Gêm beryglus, er hynny, fyddai trio creu proffeil seicolegol o rywun trwy edrych ar eu blodau, eu llysiau – a’u chwyn. Heblaw fod presenoldeb chwyn, ynddyn nhw eu hunain, yn dweud rhywbeth... a’n gardd ni fan hyn yn dystiolaeth.
Ond dw i’n falch iawn o un gornel o’r border bach o flaen y ffenest, lle mae’r eirlysiau’n dal i sbecian yn wan rhwng dail y cennin Pedr.
Mae gweddill yr eirlysiau wedi hen fynd, ond mae’r rhain yn hwyrach ac yn wahanol, yn rhai efo blodyn dwbl ac, yn bwysicach na hynny, wedi dod o ardd fy nhaid.
Maen nhw wedi cael eu symud deirgwaith neu bedair cyn cyrraedd Ceredigion – wedi mynd o Faldwyn i Feirionnydd a Gwynedd cyn cael cornel yn Nyffryn Teifi. Cysylltiad uniongyrchol efo taid a fu farw tros hanner can mlynedd yn ôl.
A fo, Richard Albert Jones, a oedd yn arddwr mawr, ydi’r prawf na allwch chi farnu dyn – na dynes - yn llwyr yn ôl ei blanhigion.
Er yr holl amser, mi alla’ i weld ei ardd yntau o hyd... y llidiart fawr wen ac wedyn y gornel y tu ôl i ffens lle’r oedd ieir cysetlyd yn pigo.
Ac wedyn yr ardd ei hun ar ychydig o oledd a’r llwybrau’n creu lle delfrydol i blentyn esgus bod yn gar a llywio’i ffordd rhwng y dail riwbob mawreddog ac o dan binaclau’r llwyni ffa.
Ar y cyfan, perthyn i’r un ysgol arddio â mam Crwys yr oedd taid. Llysiau oedd y prif gnwd a phob man yn biwritanaidd o daclus a glân.
Rhywbeth tebyg oedd hi yn y tŷ hefyd. Ymarferol oedd y dodrefn i gyd a brown oedd y lliw mwya’ mentrus, efo ambell i fflach o lwyd.
Yn union y tu allan i’r drws yr oedd y proffeil seicolegol yn cael ei chwalu. Yno, wrth ochr cwb y ci, roedd yna sbloet liwgar welwch-chi-fi o ddahlias a chrysanthemums.
Yn amlwg, roedd taid yn cymryd gofal mawr wrth eu trin a’u meithrin nhwthau ond, rhywsut, roedd hi’n anodd cysylltu’r blodau lliwgar ymffrostgar efo’r dyn tawel, syber, yr o’n i’n ei nabod... flynyddoedd wedyn ro’n i’n eu gweld nhw’n debyg i ferched o’r Moulin Rouge wedi treiddio i ganol cynulleidfa y tu allan i gapel.
Wnes i erioed ofyn pam eu bod nhw yno. Ai gwaddol oedden nhw o chwaeth y nain na welais i mohoni erioed?
Neu tybed a oedden nhw’n rhan o seicoleg taid, ac ochr o’i gymeriad nad oedd gen i yn saith oed unrhyw syniad amdani? Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360