Western Mail

‘Rwy’n gwrthod talu fy ffi drwydded nes bod darlledu yn cael ei datganoli’

Mae angen datganoli darlledu er mwyn normaleidd­io ac ehangu cynnwys Cymraeg a Chymreig, yn ôl Heledd Gwyndaf, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

-

MAE rhywbeth mawr o’i le ar y cyfryngau yng Nghymru. Mae cipolwg ar ystadegau moel y sefyllfa yn adrodd cyfrolau.

Mae yna doriadau o 40% i gyllideb S4C ers 2010. Mae’r oriau darlledu hynny gan ITV Cymru, nad sydd yn rhaglenni newyddion, lawr o bedair awr yr wythnos i awr a hanner. Ymhellach, parhau mae’r ansicrwydd ynghylch beth fydd cyllideb S4C. A hyn er gwaethaf ymrwymiad y Ceidwadwyr i “ddiogelu arian ac annibyniae­th olygyddol S4C”.

Yn ddiamau, allwn ni ddim parhau â chyfundref­n sy’n golygu trafodaeth­au blynyddol gan Weinidogio­n yn Llundain am dynged ein hunig sianel deledu Gymraeg.

Ar yr un pryd, rydym wedi gweld twf anferthol yn y cyfryngau Saesneg ac Eingl-Americanai­dd sy’n cael eu darlledu yng Nghymru dros y degawdau diwethaf – o bedair sianel deledu Saesneg eu cyfrwng i dros 400 heddiw.

Fodd bynnag, 35 mlynedd ers sefydlu S4C dim ond un sianel deledu Gymraeg ac un orsaf radio Gymraeg genedlaeth­ol sy’n cael eu darlledu, ac mae llai o gynnwys Cymreig a Chymraeg ar ein sgriniau ac ar ein tonfeddi radio nag oedd 10 mlynedd yn ôl. Mae cynnwys Cymreig a Chymraeg ar radio masnachol wedi disgyn gyda chwmnïau mawrion yn prynu mentrau cymunedol a chwmnïau bychain, megis Radio Ceredigion, ac wedyn yn torri yn ôl yn sylweddol ar y cynnwys lleol a Chymraeg.

Rydyn ni wedi gweld nifer o ymdrechion cadarnhaol, megis BBC2W, Radio Cymru Mwy a S4C2, yn mynd a dod dros yr un cyfnod. Ond dod ac wedyn mynd y maen nhw. Mae’n ddiddorol nodi bod Golwg360, menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi para’n hirach, ac yn wir wedi ffynnu’n well, na mentrau sy’n dod o gyfeiriad cyrff sydd yn atebol i Lundain mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

Mae diffygion democratai­dd difrifol yn dod yn sgil y problemau hyn. Oherwydd strwythur y cyfryngau y mae’r ffocws ar faterion sy’n effeithio ar Loegr yn unig, gyda Chymru a’r Gymraeg yn mynd yn angof. Mae hyn yn arwain at gam-argraffiad­au a chymysgwch ynglŷn â sut rydyn ni’n cael ein llywodraet­hu a ble mae penderfyni­adau yn cael eu gwneud. Bron i 20 mlynedd ers y refferendw­m ar ddatganoli, mae 40% o bobl Cymru yn dal i feddwl mai Llywodraet­h Prydain sy’n rheoli’r gwasanaeth iechyd yma.

Mae barn pobol Cymru yn rhy aml o lawer yn cael ei lywio a’i seilio ar ddadleuon yn ymwneud â Lloegr.

Er mwyn datrys yr heriau mawrion hyn, mae angen cymryd camau mawrion. Dros y blynyddoed­d, mae cymdeithas sifil wedi gwneud ymdrechion clodwiw i wella pethau, ond i raddau helaeth rydym wedi methu.

Rydym yn dioddef oherwydd bod gyda ni farchnad ddarlledu Brydeinig sy’n cael ei rheoli, neu i fod yn fwy cywir, sydd ddim yn cael ei rheoli, gan Ofcom, er lles elw cwmnïau – sgil effaith hyn yw diffyg darpariaet­h am Gymru a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Diolch byth am fentrau fel Radio Beca sydd wedi mynd ati i roi’r cyfrwng yn ôl yn nwylo pobol Cymru ac yng ngofal cymunedau Cymru.

Rydym wedi cyhoeddi papur trafod Darlledu yng Nghymru II sy’n amlinellu cynigion posibl i wella’r sefyllfa.

Yn gryno, rydym yn dadlau bod angen datganoli darlledu er mwyn sefydlu strwythur llawer mwy cymunedol i’n cyfryngau a normaleidd­io ac ehangu cynnwys Cymraeg a Chymreig. Awgrymwn y dylid sefydlu Awdurdod Darlledu Cymru, yn lle Awdurdod S4C ac Ofcom; byddai’r corff newydd yn rheoli’r holl sbectrwm darlledu gyda swyddogaet­h a phwerau penodol i normaleidd­io defnydd y Gymraeg ar bob platfform a gwella plwraliaet­h.

Mae’r cyhoedd gyda ni. Darganfu pwyllgor trawsbleid­iol Comisiwn Silk, a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain ei hunan, bod 60% o bobl Cymru o blaid datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru. Argymhello­dd y Comisiwn ddatganoli S4C yn unig i Gymru; gyda nifer o sefydliada­u eraill yn gofyn am fynd yn bellach.

Mae’r achos dros ddatganoli darlledu i Gymru yn un cyfiawn ac yn ennyn cefnogaeth y cyhoedd.

Mae’n hen bryd i ni wneud rhywbeth am hyn ac mae’r ymgyrch ar gerdded. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar hyn o bryd yn cwrdd â nifer fawr o Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad i osod ein dadl, gyda chefnogaet­h yn dod o lefydd annisgwyl ambell waith. Law yn llaw â hyn mae nifer ohonom yn gwrthod talu ein trwyddedau teledu nes bod datganoli darlledu. Dysgwch mwy fan hyn: http://cymdeithas.cymru/ datganolid­arlledu

O ddiffyg presenolde­b y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli’r cyfryngau er budd pobl Cymru. Mae angen i’r penderfyni­adau dros y cyfryngau yng Nghymru gael ei wneud gan bobl Cymru. Mae’n bryd datganoli darlledu. Ond dagrau pethau yw y bydd rhaid i ni frwydro amdano. Felly, un dewis sydd, torchwn ein llewys.

Heledd Gwyndaf yw cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae hi’n byw yn Nhalgarreg gyda’i gwr a’u tri o blant. Mae hi’n gyn-gyflwynydd teledu, cyn-athrawes ac mae hi wedi bod yn rheolwr materion cyhoeddus i nifer o sefydliada­u. Mae hi bellach yn rhedeg busnesau yng Ngheredigi­on a Sir Benfro

 ?? Rhys Llwyd ?? > Heledd Gwyndaf, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae’r Gymdeithas yn awgrymu y dylid sefydlu awdurdod newydd i reoli’r holl sbectrwm darlledu
Rhys Llwyd > Heledd Gwyndaf, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae’r Gymdeithas yn awgrymu y dylid sefydlu awdurdod newydd i reoli’r holl sbectrwm darlledu

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom