Trin a thrafod dyfodol y diwydiant
CEIR gwell cefnogaeth nag arfer i benwythnos a chynadleddau yr undebau amaethyddol a’r cyrff sy’n gysylltiedig â’r diwydiant amaeth gan fod yna faterion dyrys yn wynebu’r diwydiant.
Gwelwyd hyn yn nghynhadledd flynyddol NFU Ceredigion dan lywyddiaeth ddeheuig Huw Davies, cadeirydd y sir.
Noddwyd y gynhadledd gan HSBC, gydag Euryn Jones, y cyfarwyddwr rhanbarthol, yn bresennol.
Roedd y gynnau mawr yno, yn eu plith llywydd undeb yr NFU dros Gymru a Lloegr, Meurig Raymond, ffermwr o Sir Benfro. Cafwyd anerchiad grymus a buddiol ganddo. Dywedodd fod canlyniad Brexit yn un o’r risgiau mwyaf i’r diwydiant amaeth ers cenedlaethau, a’r prif drafodaethau yn ystod y ddwy flynedd nesaf fydd ceisio chwilio’r ffordd ymlaen fel bod modd ffermio’n gynaliadwy ar Ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Pwysleisiodd y bydd yn rhaid cael cydweithrediad rhwng y diwydiant amaethyddol, y Llywodraeth yn San Steffan a’r Senedd yng Nghaerdydd i ffurfio polisi amaethyddol a fydd hefyd yn dderbyniol i’r cyhoedd. Bydd rhaid i’r polisi fod yn gyfrwng i hyrwyddo cynnyrch proffidiol a blaengar a chynnig twf cyfleon gwaith fel buddsodiad yng nghefn gwlad.
Cyfeiriodd at y ffaith mai bwyd a ffermio yw’r diwydiannau mwyaf yn y Deyrnas Unedig a’u bod werth £108bn ac yn cyflogi 3.9 miliwn o bobl. Bydd dyfodol amaethyddiaeth yn dibynnu ar gyd-dynnu â’r Llywodraeth ag un llais os yw i lwyddo.
Rhaid bod yn hyderus a gofalu bod yr undeb yn ddigon cryf i herio’r newidiadau er mwyn diogelu a sicrhau’r ddêl orau i ffermwyr ar Ôl Brexit.
Siaradwr arall oedd Stephen James, llywydd NFU Cymru, ffermwr arall o Sir Benfro. Cyfeiriodd at y TB buchol mewn gwartheg a thanlinellodd ddifrifoldeb yr afiechyd a’i fod yn nychu ffermwyr Cymru. Er yr holl wario a’r ymdrech dros y blynyddoedd ar ran y Llywodraeth a’r ffermwyr, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu mewn rhai ardaloedd. Os am gael gwared ar yr afiechyd rhaid gweithredu dulliau llymach trwy gael gwared ar yr anifeiliaid gwyllt sy’n lledaenu’r afiechyd.
Cafwyd trafodaethau adeiladol gan yr aelodau gan bwyleisio bod amaeth o bwys, nid yn unig o ran diogelu’r cyflenwad bwyd ond hefyd o ran incwm i’n cymunedau lleol.
Bydd rhaid brwydro am fynediad llawn a rhydd yn y farchnad sengl i’n nwyddau yn ddi doll.