Cyfnod ansicr i’r diwydiant amaeth
AR ôl yr holl drafod a darogan, yfory mi fydd y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn dechrau gyda thanio Erthygl 50.
Dyma ddechrau ar drafod telerau a chytundebau ac fe ddisgwylir y gall hyn gymryd dwy flynedd. Mi fydd yn gyfnod tyngedfennol i amaethu yng Nghymru.
Dw i wedi bod mewn sawl cynhadledd dros y naw mis diwethaf sy’n trafod Brexit a’i sgil effeithiau ac un peth dw i wedi ei ddysgu o wrando ar y gwahanol siaradwyr yw nad oes neb yn sicr beth fydd yn digwydd yn y tymor byr.
Mae’n dir newydd, does neb wedi gadael yr Undeb o’r blaen, ond nawr mae’n rhaid gweithio i sicrhau’r cytundeb gorau i’r diwydiant amaeth o dan y drefn newydd.
Ar Ffermio neithiwr cawsom glywed am bryderon ffermwyr yr ucheldir ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd a’r farchnad sengl.
Eu pryder mwyaf oedd yr angen i ddiogelu’r farchnad ar gyfer ŵyn yn ddi-dariff.
Er bod ffermwyr yn gallu addasu eu ffyrdd o amaethu, all hynny ddim digwydd dros nos.
Mae yna flynyddoedd o waith bridio er mwyn diwallu angen y prynwyr a bydd addasu’r systemau yma yn golygu llawer mwy na newid gosodiad ar beiriant mewn ffatri.
Yng nghanol yr holl drafod am delerau, a threfn mewnforio ac allforio cig, un datblygiad amserol a berodd siom oedd gweld yn y newyddion am y sgandal cig ym Mrasil pan ddaeth i’r amlwg fod cig wedi ei bydru yn cael ei werthu gan y wlad sy’n allforio’r mwyafrif o gig coch yn y byd.
Mae 33 o weithwyr y llywodraeth wedi cael eu gwahardd o’r gwaith a nifer o unedau prosesu cig wedi cau.
Roedd yna dystiolaeth bod cemegolion wedi cael eu defnyddio i guddio arogl y cig pydredig a chynhwysion wedi cael eu hychwanegu at gig er mwyn cynyddu elw.
Felly wrth edrych ar sut y gall cynhyrchwyr cig o Gymru barhau i fod yn gystadleuol yn y blynyddoedd nesaf mae’n rhaid ein bod fel gwlad yn sicrhau bod cytundebau’r dyfodol yn deg, gyda rheolau sy’n gyson dros y byd i gyd er mwyn cynnal busnesau cynhyrchiol ac sy’n gwneud elw ar ffermydd Cymru.
Mae Gwawr Lewis yn gynhyrchydd ar gyfres Ffermio, sydd ar S4C bob nos Lun am 9.30yh. Gallwch wylio pennod neithiwr ar s4c.cymru a BBC iPlayer.