Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

I’R rhai ohonom a fagwyd ar y gerdd “Nant y Mynydd groyw loyw” mae’r darganfydd­iad diweddar o allu tynnu’r halen o ddŵr y môr yn newyddion da.

Roedd modd gwneud hyn eisoes mae’n debyg mewn rhai gwledydd ond mae’r syniad y gall yr holl bobloedd sydd eisoes yn dioddef o sychdwr gael eu diwallu yn destun llawenydd.

Ond pan fyddaf yn meddwl am ddŵr glân, nid meddwl am yr hyn a ddaw o’r tap sy’n fy meddwl, na chwaith o boteli plastig. Na, rwy nôl yn Llysderi, Drefach, Felindre, yn casglu dŵr mewn jyg fawr. Ac rwy’n saith mlwydd oed eto yn cwpanu’r dŵr at fy ngên ac yn rhyfeddu at ei haelioni.

Haelioni o fath arall neu yn hytrach, elfen o ddoethineb sydd y tu ôl i bysgotwyr y Teifi yn penderfynu dychwelyd eogiaid gan eu bod yn eu cil, neu ar drai.

Mae’r cyryglwyr wedi galw ar bysgotwyr eraill i wneud yr un fath a dychwelyd y pysgod er mwyn cynyddu’r stoc maes o law.

Tystiodd sawl un i’r argyfwng ac mae’r rhai sy’n pysgota gyda chwrwgl i’w canmol am eu blaengarwc­h.

Yn sicr, fel “fynnon Llysderi” un o’r atgofion hyfryd sydd gennyf o fyw yng Nghenarth yn y ’70auu oedd cerdded tuag at y rhaeadrau gan wylio’r eogiaid yn llamu o’r dyfroedd. Bwrw tystiolaet­h neu hel atgofion? Bu’n wythnos egr eto o wylio’r newyddion.

Am ddyddiau, methwn â chael y “ceisiwr lloches” o’m meddwl sef y sawl a fu bron â marw o anafiadau difrifol yn dilyn ymosodiad gan dorf o bobl.

Meddyliwch o ddifri amdano yn aros am fws ac o gael ei holi yn dweud mai “ceisiwr lloches” ydoedd, dim ond i dorf wedyn ymosod yn giaidd arno.

Ac roedd y newyddion a ddaeth i law o rai’n sefyllian o gwmpas yn gwylio heb wneud dim yn ergyd arall i’n synnwyr o ddynoliaet­h.

Wrth imi lunio’r golofn hon, cafwyd y newydd am yr ymosodiad cemegol ar dref yn Syria gan rymoedd al-Assad. Beth nesa?

Tystiodd meddyg ar y newyddion mai hwy, y gweithwyr meddygol fyddai’r nesaf i ddioddef. Dylai hyn ein hysgwyd i gyd a’n gwneud i ddymuno i’r gwledydd weithredu gydag un llais. A’n llywodraet­h ni? Maen nhw’n rhy brysur yn hedfan o fan i fan yn ceisio cwtsho lan i wledydd sydd yr un mor amheus eu dulliau o reoli dinasyddio­n fel Sawdi Arabia. Ar y naill law, yn gwerthu arfau iddynt ac ar y llaw arall yn brolio eu bod yn rhoi cymorth dyngarol yn Yemen. Rhyfedd gweld prif weinidog bennoeth sef Theresa May yn cwrdd â’r penaethiai­d ar ei phen ei hun heb ddyn yn ei hochr!

O am ddychwelyd i ailfyw symlrwydd casglu dŵr o ffynnon Llysderi.

Mae’r Athro Menna Elfyn yn Gyfarwyddw­r Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom