Beth fydd effaith yr etholiad ar fyd amaeth?
YN ANNISGWYL, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Theresa May y bydd Etholiad Cyffredinol ar Mehefin 8.
Er mai prin dwy flynedd yn ôl y cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol diwethaf, mae’r tirlun gwleidyddol wedi newid tipyn.
Mae gennym Brif Weinidog newydd ac mae’r broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd wedi dechrau.
Er i Theresa May ddweud na fyddai’n galw Etholiad Cyffredinol, mae’n amlwg bod arwain plaid heb fwyafrif mawr wedi bod yn fwy o her na’r disgwyl.
Mae’n siwr bod y Prif Weinidog a’r blaid Geidwadol yn gobeithio ennill fwy o dir a seddau i’w plaid, er mwyn bwrw ymlaen gyda Brexit yn y modd y dymunwn.
Ond a fydd ei gobeithion yn troi yn wirionedd? Mae gwleidyddiaeth, yn enwedig canlyniadau etholiadol, wedi bod yn anodd ei darogan; a fydd y gambl yn talu ar ei ganfed? Amser a ddengys.
Sut effaith caiff Brexit a’r Etholiad Cyffredinol ar y sector amaeth?
Mae’n edrych yn debyg bydd y sector amaeth yn cael ei heffeithio’n fawr gan Brexit, ac fe fydd ffermwyr yn eiddgar i glywed sut fydd y pleidiau gwahanol yn bwriadu cefnogi’r sector amaeth yn y dyfodol.
Mae’r ffaith bod mwy o bobl y dyddiau hyn yn dewis peidio bwyta cig ac yfed llaeth, am amryw o resymau moesol neu amgylcheddol, yn her i ffermwyr.
Sut all y sector amaeth ymateb i’r her hwn?
Un cynnig yw cael trafodaeth glir a ffeithiol gywir am fudd bwyta deiet cytbwys. A ddylai ffermwyr fod yn fwy blaenllaw wrth farchnata eu cynnyrch?
Mae angen i’r diwydiant fod yn fwy agored a darganfod ffurf o addysgu pobl am y technegau a ddefnyddir wrth ffermio.
Mae angen pwysleisio pwysigrwydd amaethyddiaeth i gymunedau ar hyd a lled y wlad, er mwyn ehangu deallusrwydd pobl am y sector.
Her a phroblem arall sy’n wynebu ffermwyr yw lladrata. Mi fydd y pwnc hwn yn cael sylw rhaglen Ffermio nos Lun nesa am 9.30yh.
Boed yn anifeiliaid, gatiau neu feiciau modur, mae troseddu cefn gwlad yn broblem fawr i ffermwyr, ac mae ar gynnydd.
Mi fydd y rhaglen hefyd yn ymweld â diwrnod agored arbennig sy’n cael ei gynnal er mwyn ceisio darganfod beth yn rhagor all ffermwyr ei wneud er mwyn diogelu eu heiddo.
Mae Gwawr Lewis yn gynhyrchydd ar gyfres Ffermio, sydd ar S4C bob nos Lun am 9.30yh. Gallwch wylio pennod neithiwr ar s4c.cymru a BBC iPlayer. Cefn Gwlad: Tudalen 8