WELSH COLUMN
ROEDD o’n edrych fel pasta, roedd o’n blasu bron iawn fel pasta... ac eto roedd o’n gwbl wahanol.
Ynghanol pentyrrau o ffrwyth gwyrdd a du’r olewydd, a chlystyrau o gigoedd hallt amrywiol, y platiad gwelw, di-liw, oedd y mwya’ trawiadol o’r cyfan.
Roedd o’n rhan o wledd i ddathlu ail-agor plasty yn Ynys Sardinia yn yr Eidal – plasty a oedd wedi’i godi gan Gymro – ac, er mai bwyd y werin oedd o, hwnnw, i fi, oedd seren y sioe.
Mi gawson ni glywed wedyn ei fod o’n nodweddiadol o fwyd y werin ar draws y byd. Un peth sylfaenol i roi swmp, ei goginio fo i wneud y defnydd gorau o adnoddau prin, a rhyw ychydig o rywbeth ar ei ben o i roi blas.
Yr un syniad yn union â’r cawl Cymreig o ran creu llawer allan o ychydig – i ni, roedd llysiau, dŵr a rhyw fymryn o gig yn gallu creu sawl pryd, a thatws yn ychwanegu sylwedd.
Yn Sardinia, bara ydi’r swmp. Tafelli o hwnnw’n cael eu berwi a’u mwydo yn y dŵr sydd ar ôl o goginio cig oen, eu torri’n ddarnau bychain a’u rholio i edrych fel pasta tew. Ac wedyn, ychydig o’r caws dafad lleol, pecorino, i roi’r blas.
Am bob math o resymau, mae pasta wedi lledu ar draws y byd; mae’r bara caws wedi aros yn Sardinia. Trysor bach i rai fel criw ffilmio cwmni Unigryw ddod ar ei draws wrth wneud rhaglen deledu am Gymro arall a wnaeth farc rhyngwladol.
Ond nid ym maes bwyd yn unig y mae yna drysorau annisgwyl... na phrawf arall o’n hanwybodaeth ni am ddiwylliannau Ewrop. Yn Sardinia hefyd y mae un o ieithoedd lleiafrifol mwya’r cyfandir, er nad oes fawr o sôn amdani.
Ychydig iawn o statws swyddogol sydd gan yr iaith Sardo ond mae’n siŵr bod miliwn go dda o bobol y gallu ei siarad hi, hyd at ryw lefel neu’i gilydd. Mewn ambell ardal, mae hi’n wanach; yn y canol gwledig, mae hi’n gry’.
Ar hyd a lled yr ynys – sy’n agos iawn at faint Cymru – mae yna sawl tafodiaith wahanol, yn achos balchder ac yn rhywfaint o lestair hefyd. Ac, fel yng Nghymru, mae yna gwyno bod iaith y bobol ifanc yn troi’n fratiaith.
Wrth ei sŵn, mae Sardo’n un o’r ieithoedd hynny sy’n gorwedd rhwng yr ieithoedd mawr, Eidaleg a Sbaeneg yn benna’. Fel gyda Chatalaneg, neu’n fwy fyth gydag iaith Provence, mae rhai’n eu dirmygu nhw a’u galw nhw’n dafodieithoedd.
Ond, pe bai hanes wedi digwydd yn wahanol, nhw fyddai’r ieithoedd mawr. Damwain a hap, a grym milwrol a gwleidyddol sy’n penderfynu ar y pethau yma.
Ac yn penderfynu hefyd pam mai pasta – nid bara Sardinia – sydd ar siffloedd ein siopau ni. Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360