Western Mail

‘Gall rannu’r broblem ei haneru yn syth’

- Angharad Menna

MAE’N hawdd cydymdeiml­o gyda rhywun sydd wedi torri ei goes, neu rywun sydd â’i law yn gwaedu ar Ôl cael anaf, neu hyd yn oed rhywun sydd yn sâl yn y gwely am fod ganddo’r ffliw.

Maen nhw’n amlwg mewn poen, rydych yn gallu ei weld yn blaen, ac mae’n hawdd dychmygu bod yn yr un sefyllfa.

Ond mae’n stori wahanol pan mae iechyd meddwl yn y cwestiwn.

Does dim byd yn bod yn weledol ond eto, mae’r person wir yn sâl.

Yn anffodus, mae afiechyd meddwl yn gyffredin iawn yng nghefn gwlad Cymru.

Er bod bywyd fferm yn aml yn braf gan roi llawer o foddhad, mae’n gallu bod i’r gwrthwyneb.

Mae’r gwaith wir yn ddiddiwedd ac mae pethau’n gallu mynd yn anodd.

Mae’n hawdd i ffermwyr feio eu hunain pan fod anifail yn marw, neu pan fod y peiriannau’n torri lawr, neu pan fod unrhywbeth yn mynd o’i le.

Ar ben hyn, gall sawl diwrnod fynd heibio heb i’r ffermwr adael y fferm neu weld unrhywun – diwrnodau heb unrhywun i allu rhannu gofidiau.

Hefyd wrth gwrs, mae ansicrwydd at y dyfodol yn ofid arall. Hawdd yw cwympo i mewn i’r trap a gofidio am bethau na ellid gwneud unrhywbeth amdanynt.

Y ddelwedd gyffredino­l sydd gan ffermwyr yw dynion neu fenywod cryf, cadarn, yn barod i wynebu unrhywbeth. Mae hyn wedyn yn ei gwneud hi’n anoddach i ffermwyr gyfaddef fod rhywbeth yn bod ac i ofyn am gymorth.

Ond does dim angen teimlo cywilydd. Mae’n anodd ceisio egluro rhywbeth sydd ddim yn weledol, ond mae’n bwysig cofio fod sawl un yn yr un cwch.

Gall rannu’r broblem ei haneru’n syth – mae’n hynod bwysig i siarad.

Bydd Ffermio yn archwilio iechyd meddwl o fewn y byd amaeth yn ystod yr wythnosau nesaf fel rhan o amrywiaeth eang o raglenni ar S4C i godi ymwybyddia­eth am iechyd meddwl.

Bydd cyfle i rannu profiadau gyda rhai sydd wedi dioddef, a siarad gyda rhai sydd yna i helpu. Cofiwch wylio.

Mae Angharad Menna yn ymchwilydd ar gyfres Ffermio, sydd ar S4C bob nos Lun am 9.30yh. Gallwch wylio pennod neithiwr ar s4c.cymru a BBC iPlayer

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom