Ymosodiadau ar ddefaid yn bryder parhaus
MAE ymosodiadau ar ddefaid gan gŵn wedi bod yn destun pryder i ffermwyr am nifer o flynyddoedd bellach.
Yn anffodus ar y rhaglen Ffermio, rydym wedi cyfweld a chwrdd ag unigolion sydd wedi profi’r colledion oherwydd yr ymosodiadau.
Er mai cŵn heb dennyn mewn ardal wledig sydd yn cael llawer o’r bai, mae’n wir i ddweud mai cŵn sy’n dianc o’r ardd neu o’r tŷ sydd wedi creu difrod ar rai ffermydd yng Nghymru. Dros y tair blynedd diwethaf, bu mwy na 300 o ddigwyddiadau yng Ngogledd Cymru gan golli dros 1,000 o ddefaid.
Yn ôl ystadegau a gafodd eu casglu gan Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru, mae’r ymosodiadau yn cynyddu adeg ŵyna, sy’n adeg ddigon gofidus i’r ffermwyr.
O ran De Cymru, mae Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn tua 20 o alwadau’r mis sy’n seiliedig ar ymosodiadau ar ddefaid. O ran cyngor i’r ffermwyr, os bydd y perchennog yn bresennol, y peth gorau yw gadael nhw i ddenu’r ci oddi ar y defaid.
Os nad yw’r perchennog yno, mae gan y ffarmwr yr hawl i saethu’r ci os yw’n ofni y bydd y ci yn ymosod ar eu stoc. Os yw ymosodiad yn digwydd ar y fferm, mae’n rhaid cysylltu gyda’r heddlu o fewn 48 awr.
Mae’r rhan fwyaf o berchenogion cŵn yn gyfrifol ac yn ofalus a bydd y rhain yn siwr o roi gofal da bob amser i’w cŵn.
Ond mae yna gyfrifoldeb mawr ar berchenogion y cŵn i fod yn wyliadwrus rhag ofn i gyfaill gorau dyn cael cam.
Mae Rhys Jones yn aelod o dîm cynhyrchu cyfres Ffermio, sydd ar S4C bob nos Lun am 9.30yh. Gallwch wylio pennod neithiwr ar s4c.cymru a BBC iPlayer.