Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

RWY’N falch nad oeddwn yn Heathrow y dydd o’r blaen. Ydi, mae teithio yn mynd yn fwy streslyd bob blwyddyn. GWN am deuluoedd a fwriadodd fynd i’r Eisteddfod ond i’r ciw eu gwneud i ailfeddwl. TRUENI mawr wrth gwrs a hynny am ei bod yn Eisteddfod dda dros ben. Ond nid ar chwarae bach y bydd rhywun yn ymuno â thyrfa y dyddiau hyn.

Yr unig gysur efallai yw eu bod yn ddigon pell i ffwrdd oddi wrth yr ymgyrch etholiadol.

Alla i ddim yn fy myw gofio etholiad mwy diflas. Ac am ryw reswm, nid y gwleidyddi­on sy’n fy siomi, er eu bod yn medru gwneud, ond na, y cyfryngau.

Y mae rhywbeth mor hunan bwysig am rai o’r holwyr ac yn enwedig pan lwyddir i ddal gwleidydd mewn magl, yn methu cofio rhyw ffigwr neu gilydd.

Os yw’r darpar wleidydd, pwy bynnag y bo yn anghofio ryw ffigwr, alla i ddim a’i feio achos mae mynd o un lle i’r llall, ar wib, yn siwr o roi’r pendro i unrhyw un.

Y peth rhyfedd yw eu bod yn medru siarad o gwbl.

Hoffais sylw un gwleidydd Brian Faulkner o Ogledd Iwerddon pan ddywedodd: medrwch wneud dri pheth mewn gwleidddia­eth (Gwyddelig), hynny yw, gwneud y peth iawn, gwneud y peth anghywir, neu ddim byd o gwbl.

A meddai, rwy wastad wedi credu ei fod yn well i wneud y peth anghywir, na dim byd o gwbl.

Dywediad ffôl efallai a dyna pam yr ydym ynghlwm wrth Brexit ac awydd un cyn Brif weinidog i wneud rhywbeth yn lle dim byd gan arwain at ddicter o’r ddwy ochr.

Neithiwr, gwyliais y bobl ifanc yn dadlau yn erbyn y bobl hŷn, a theimlwn mor drist dros ddyheadau’r rhai ifanc.

Gwnaeth imi sylweddoli mor braf oedd cyfnod y saithdegau a’n delfrydau dros newid y byd a thros ddileu apartheid yn Ne Affrica a hawliau’r iaith.

Heddiw, mae yna doreth o heriau na all hyd yn oed y gwleidyddi­on eu datrys yn rhwydd.

Ond po fwyaf y mae’r cyfryngau yn lambastio un arweinydd yn arbennig, mwyaf yn y byd rwy’n cynhesu ato.

Dywedodd un peth a arhosodd gyda mi – rhaid i ni siarad â’n gilydd achos mae yna rywbeth gyda chi nad ydw i’n ei wybod a rhywbeth gen i nad ydych chi yn ei wybod.

Mor wahanol yw safbwynt Theresa May sy’n ymhyfrydu nawr wrth fod yn fenyw anodd.

Os yw yn hawlio mai dim ond hyhi all drafod gyda’r gweinidogi­on ym Mrwsel, pam ei bod mor amharod i ddadlau gydag arweinwyr y gwledydd hyn?

Diolch i’r drefn, cawn wybod cyn hir ein tynged. Falle y bydd gofyn i ni newid y slogan ‘tynged yr iaith’ i ‘tynged ein gwlad.’

Mae Dr Menna Elfyn yn Gyfarwyddw­r Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom