Mudiad sy’n creu cyfleoedd i bawb
RYDYM yng nghanol tymor ralïau’r Clwb Ffermwyr Ifanc ar hyn o bryd, gydag aelodau’r mudiad dros y wlad yn gweithio ddydd a nos i gael pethau’n barod ar gyfer y diwrnod mawr.
Mae fy rali leol i yn Sir Benfro newydd gael ei gynnal, ac roedd yn ddiwrnod a hanner yn llawn gweithgareddau. Roedd yna lawer iawn o waith paratoi wrth gwrs, ac fel pob dim arall mae’r mudiad yn ei wneud, nid oedd diben rhoi hanner cynnig arni.
Roedd pawb wedi bod yn ymarfer bob nos am dair wythnos cyn y rali, ac roedd cyfarfodydd yr wythnos olaf yn parhau tan hanner nos. Tipyn o her, wrth feddwl fod yn rhaid i bob aelod a’u hyfforddwr fynd i’r gwaith neu i’r ysgol y diwrnod canlynol.
Ond yn sicr roedd yn werth yr holl waith caled – roedd gweld y dalent ar ddiwrnod y rali yn anhygoel. O’r canu i’r gosod blodau, o’r dawnsio i’r gwaith saer ac o’r tynnu rhaff i’r coginio.
Dyma binacl calendr y ffermwyr ifanc, mae’n crisialu union ddiben y mudiad, sef datblygu sgiliau, gwobrwyo gwaith caled a chreu unigolion bodlon ymhob ffordd. Roedd aelodau o glybiau gwahanol, er eu bod yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, yn cymeradwyo a chanmol ei gilydd. Roedd pawb wrth eu boddau – boed yn cystadlu neu’n cefnogi.
Dyma brawf fod Mudiad y Ffermwyr Ifanc yn llawer iawn mwy na ffermio a chymdeithasu gyda ffermwyr eraill! Nid mudiad i ffermwyr yn unig ydyw, mae’n bwysig pwysleisio ei fod yn gymaint mwy na hynny.
Mae’r buddion o fod yn aelod o’r mudiad yn ddiddiwedd ac yn amhrisiadwy. Dyma fudiad sy’n galluogi pobl i greu ffrindiau, datblygu personoliaethau, hybu sgiliau, codi hyder a chreu unigolion sy’n flaengar yn eu cymunedau. A na, does dim angen bod yn ffermwr nac o gefndir amaethyddol er mwyn bod yn aelod o’r gymdeithas. Cefn gwlad yw sylfaen y meddylfryd wrth gwrs, ond mae haenau di-ri uwchlaw’r sylfaen hwn yn rhan o’r mudiad, ac maen nhw’n rhoi cyfleoedd i bawb deimlo’n rhan o’r gymdeithas.
Felly, os cewch chi gyfle i fynychu rali sirol, ewch da chi, er mwyn gweld yr holl dalentau gwahanol sy’n perthyn i’r mudiad. Mi fydd aelodau presennol a chyn aelodau’r mudiad ar raglen Ffermio nos Lun nesaf am 9.30yh – cofiwch wylio!
Mae Angharad Menna yn aelod o dîm cynhyrchu cyfres Ffermio, sydd ar S4C bob nos Lun am 9.30yh. Gallwch wylio pennod neithiwr ar s4c.cymru a BBC iPlayer.