WELSH COLUMN
WYNEBU amser peryglus MAE’N amser peryglus. Ac nid dim ond oherwydd y bygythiad o ymosodiadau braw. Mae’n amser peryglus hefyd ar sail ein hymatebion ni.
Braw ydi’r cynta’ o’r rheiny, a dyna nod yr ymosodwyr. Creu ofn ynon ni na allwn ni fentro i unman yn gwbl saff.
Mi fydd y teimlad hwnnw wedi cynyddu mwy o ganlyniad i’r ymosodiad ar Bont Llundain, mwy hyd yn oed nag ar ôl yr ymosodiad yn Arena Manceinion. All yr heddlu na neb arall ddim atal pob fan.
Hyd yn oed mewn digwyddiadau mawr, yn gyngherddau, neu gêmau pêl-droed, neu eisteddfodau, mae’n bosib amddiffyn pobol y tu mewn ond nid o angenrheidrwydd y tu allan.
Braw ydi’r emosiwn mwya’ dinistriol o’r cyfan, naill ai’n ein parlysu ni, neu yn ein gyrru ni’n wyllt. A’r ddau gyflwr mor beryglus â’i gilydd.
Hyd yn oed cyn ymosodiad nos Sadwrn, roedd yna islais cynyddol o bobol yn troi yn erbyn Moslemiaid a mewnfudwyr tramor yn gyffredinol, fel petai person gwyn neu Gristion yn euog am bob trosedd gan ein heithafwyr ninnau.
Dyna nod arall y rhai sy’n creu braw. Yn ôl arbenigwyr ar y mudiad IS neu Daesh, rhan fawr o’u bwriad ydi creu rhwygiadau rhwng Moslemiaid cymhedrol a’r cymdeithasau gorllewinol o’u cwmpas yn y gobaith o wthio’r rheiny at eithafiaeth hefyd.
A dyna fynd at wraidd y rheswm pam fod hyn yn digwydd. Yn amlwg, mae yna syniadau eithafol iawn ymhlith rhai carfannau Moslemaidd ond y cwestiwn pwysig ydi pam fod hadau’r rheiny’n cael tir ffrwythlon heddiw.
Mae yna eithafwyr ideolegaidd mewn pob math o ddiwylliannau a chrefyddau eraill ond, heb yr amodau iawn, dydyn nhw ddim yn ennill tir; a defnyddio darlun Beiblaidd, maen nhw’n gwywo ar y gangen. Dydi hynny ddim yn wir am eithafiaeth jihadaidd ar hyn o bryd.
Mae yna arwyddion erstalwm bod Moslemiaid goddefgar yn troi yn erbyn yr eithafwyr, fel y basech chi’n disgwyl. Mi fydd rhaid i hynny ddigwydd fwy a mwy, ond mae’n rhaid i ninnau helpu.
Yn rhy aml, trwy hanes ac eto rŵan, mae ein triniaeth ni o bobloedd eraill yn creu problemau, yn bwydo’r eithafwyr ac yn eu helpu i feithrin rhai newydd. Dydi hynny ddim yn rheswm tros ladd pobol ddiniwed ar bont neu mewn cyngerdd pop, ond mae’n help i egluro pam.
Nid ateb tros nos fydd yna. Does dim modd atal pob ymosodwr dienaid a, hyd yn oed petaen ni eisiau hynny, does dim modd dadwneud degawdau o hanes o symudiad pobloedd ar draws y byd. I raddau, trwy ein Hymerodraeth, ni greodd yr hanes hwnnw.
Mi fydd angen gweithredu pwyllog, doeth, gan garedigion heddwch a goddefgarwch ar bob ochr. Mae’n amhosib atal pob fan, pan fydd eu holwynion eisoes yn troi a dynion arfog ynddyn nhw ... yr unig obaith ydi atal hynny ei hun rhag digwydd. Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360