WELSH COLUMN
MI FYDDAI mewnfudo o Loegr i Gymru’n beth gwych, petai pawb o’r mewnfudwyr yr un peth â Tony Bianchi. A dweud y gwir, fyddai gan y Gymraeg na’i llenyddiaeth hi fawr o broblemau wedyn.
Dyna pam, wrth i ni alaru am golli llenor amlwg arall, fod dweud geiriau fel “colled anferth” a “welwn ni ddim o’i debyg” yn gwbl wir.
Mae yna 40 mlynedd union ers i fi ddod ar ei draws, ac yntau’n helpu Ned Tomos yn Adran Saesneg Prifysgol Cymru Aberystwyth i gyflwyno cwrs arloesol yn gosod llenyddiaeth Saesneg Cymru ochr yn ochr â llenyddiaeth Gymraeg.
Dw i ddim yn siŵr a o’n i’n deall ar y pryd mai dyn o Loegr oedd hwn, wedi ei fagu ar lannau afon Tyne mewn ardal oedd wedi colli ei Chymraeg ers rhyw fileniwm a hanner siŵr o fod.
Waeth cyfadde’ ddim fy mod i wedi dewis gwneud y cwrs gan feddwl y byddai’n gymharol rwydd i siaradwr Cymraeg; diolch i Ned a Tony, doedd o ddim. Ond mi daniodd y dychymyg.
Dyna a wnaeth Tony Bianchi; wrth drwytho’i hun yn llwyr yn y diwylliant Cymraeg – roedd o eisoes yn siarad yr iaith yn rhugl erbyn hynny – mi ddaeth â rhywbeth newydd yn gyfraniad gwerthfawr i’w gartref newydd.
Heb y rhagfarnau oedd gynnon ni, roedd yn gallu edrych o’r newydd ar yr iaith a’i llenyddiaeth ac mi ddefnyddiodd hi mewn ffordd newydd, yn ei nofelau cywrain ac yn ei englynion gwreiddiol o wahanol.
Mi ddywedodd rywdro ei fod wedi syrthio mewn cariad efo’r Gymraeg fel y byddai rhywun yn syrthio mewn cariad efo darn o gerddoriaeth, a hynny’n dangos cymaint o emosiwn oedd o dan yr wyneb tawel, pwyllog.
Yn y dyddiau hynny mewn seminarau yn Aber, mi ddes i sylweddoli’n fuan nad oedd am gymryd atebion hawdd ac roedd yn fodlon anghytuno a dadlau achos. Oherwydd ei fod yn gwneud hynny’n onest, roedd yn dadlau’n gwrtais a charedig hefyd.
Yn ddiweddarach, ac yntau’n uchel swyddog efo Cyngor Celfyddydau Cymru, mi lwyddodd i gerdded y llinell fain iawn rhwng gwneud ei waith yn unol â’r rheolau a defnyddio synnwyr cyffredin.
Ac yntau wedi arbenigo ar ddramâu absrwd Samuel Beckett, roedd o’n bownd o weld sefydliad fel yna’n lle doniol a rhwystredig i weithio. Dim ond rhywun â’i draed ar y ddaear sy’n gallu gwerthfawrogi gwiriondeb.
Roedd hynna i gyd yn ei waith a’r nofel Pryfeta a ddaeth ag enwogrwydd iddo – a Gwobr Goffa Daniel Owen – yn enghraifft berffaith o’i gyfraniad... nofel i’r ymennydd oedd hefyd yn synhwyrus iawn. Nofel nad oedd dim tebyg iddi yn Gymraeg.
Dw i’n gobeithio mai Sais oedd Tony hyd y diwedd. Does dim angen troi’n Gymro i fod yn rhan o’r diwylliant a’r genedl a rhoi gwasanaeth anferth iddi.
Mi fedrwch wneud mwy fel arall. Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360