WELSH COLUMN
RWY’N cael ambell golofn yn anodd i’w llunio yn enwedig pan ddaw i sôn am golli person mor arbennig â Tony Bianchi.
Ac mor eang oedd ei ymwneud â’r genedl hon ac â’r byd rhyngwladol, heb sôn am ei gyfraniad i lenyddiaeth Cymru fel na wn i’n iawn sut mae dechrau arni.
Dyma geisio ei osod i bedwar cyfnod o adnabyddiaeth.
Y tro cyntaf imi gwrdd â Tony oedd pan fu criw bychan ohonom yn swatio y tu mewn i swyddfeydd y BBC yn Abertawe fel rhan o’r ymgyrch dros wasanaeth darlledu gwell fel aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn y ’70au. Gwylnos oedd hi ac roedd un person tawel iawn yn ein cwmni. Sais ydoedd ond yn dysgu’r Gymraeg ac yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Llambed. Cystal cyfadde, roeddem oll yn amheus o’r fath berson bryd hynny gan wybod am ystrywiau heddlu cudd y cyfnod hwnnw. Ond buan y daethom i weld nad sbiwr oedd e ond sbiwr dros yr iaith a’i diwylliant. Ein braint, ymhen amser, oedd ei gael yn Gymro brwd mabwysiedig.
Yr ail gyfnod y deuthum ar draws Tony oedd fel swyddog llenyddiaeth gyda Chyngor y Celfyddydau ac ni fu ei debyg fel gweinyddwr trefnus, doeth, caredig a chanddo weledigaeth eang am lenyddiaeth. Yn ddiweddarach, bu’n gyfarwyddwr gan ymroi gyda’r un egni, brwdfrydedd a chariad tuag at lenorion ac artistiaid o bob math gan drin yr awduron profiadol a’r egin-awduron gyda’r un parch.
Y trydydd cyfnod, ac roedd hwn hwyrach yn gorgyffwrdd gyda’i waith fel gweinyddwr, oedd ei ymwneud fel ymgyrchydd dros achosion: Amnest Rhyngwladol a’r mudiad GwrthApartheid. Rwy’n cofio i Tony ddod ataf cyn imi ddarllen yn y brifddinas unwaith gan fy atgoffa i gyhoeddi dyddiad protest gwrth-apartheid yn y brifddinas a chyd-syniais wrth gwrs.
A’r pedwerydd cyfnod sy’n cyrraedd anterth yr holl gyfnodau eraill oedd gallu ymfalchïo yn ei lwyddiant yn ennill prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol ym myd rhyddiaith gyda’i nofelau hollol unigryw. Unwaith eto, trodd y Sais a goleddodd Cymru â’i llên i fod yn nofelydd a bardd dihafal. Ein lwc dda ni fel cenedl oedd iddo ysgrifennu yn Gymraeg yn bennaf oll er cyfieithu un o’i nofelau i’r Saesneg. Dim rhyfedd ychwaith iddo ddisgleirio fel englynwr er iddo fy ffonio unwaith i ddweud nad bardd ydoedd. Mewn oes pan yw’r term hwnnw yn cael ei hawlio’n rhwydd, roedd mor nodweddiadol o wyleidd-dra Tony – fel person gwylaidd.
A’r person hwnnw yw’r golled i’w deulu a’i ffrindiau. Y Tony nad oedd byth yn tynnu sylw ato ei hun mewn cwmnïaeth (heblaw canu’r piano mewn digwyddiadau hwyr y nos!). Ac ie, enbyd o beth na ddywedais erioed wrtho fy mod yn ei gyfrif fel ffrind.
Dywedaf hynny nawr gyda thristwch a balchder o fod wedi cael ei adnabod.