Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH

Mae yna rai colofnwyr yn credu bod y BBC wrth eu bodd pan gododd y ddadl am gyflogau merched a dynion; nid am nad ydi hynny’n embaras i’r Gorfforaet­h ond am ei bod yn codi cwestiynau haws eu hateb nag eraill.

O ganlyniad i’r protestio cwbl gyfiawn am annhegwch rhwng y rhywiau, mae yna lawer llai o bobol wedi bod yn holi pam fod bron y cyfan o’r mawrion ar y rhestr yn wyn a pham fod cyn lleied ohonyn nhw yn gyfarwyddw­yr, cynhyrchwy­r a gweithwyr technegol.

Heb sôn, wrth gwrs, am y cwestiwn sylfaenol: pam fod angen talu cyflogau mor anferth beth bynnag? Yr ateb i hwnnw, pan gaiff ei ofyn, ydi ‘pris y farchnad’ a’r honiad fod rhaid talu’r pris am fod rhai cyflwynwyr yn cael llawer mwy gan gwmnïau preifat (a gan y BBC trwy gwmnïau preifat).

Ond tybed? Mae’r rhestr gyflogau yn codi cwestiynau hefyd am natur enwogrwydd ei hun yn oes y teledu a’r cyfryngau torfol. Ai’r person sy’n enwog, ynte’r cyfrwng?

Mae pobol ddi-ddim ar sioeau realiti yn dod yn enwog, mae pobol sy’n cael sylw gwibiog ar deledu yn enwog am gyfnod byr ac mae unrhyw un sydd wedi bod ar y sgrin o gwbl yn gwybod bod hynny, er mor annheilwng, yn creu argraff afresymol ar bobol.

Mae’r BBC wedi dadlau bod rhaid talu i gadw’r perfformwy­r gorau – er ei bod yn anodd gweld pwy arall yn union sydd am dalu ffortiynau i lwyth o gyflwynwyr radio - ond efallai y dylen nhw feddwl yn hytrach be fyddai’n digwydd i’r enwogion heb y BBC.

Mae digon o dystiolaet­h o gwmpas y lle i ddangos pa mor gyflym y mae’r gynulleidf­a’n anghofio am sêr sy’n diflannu o’r ffurfafen ac ambell stori drist yn dangos pa mor ddychrynll­yd i rai ydi’r profiad hwnnw.

Nid colli cyflog nac enwogrwydd yn unig fydden nhw chwaith. Mae cyflwyno rhaglenni amlwg ar y BBC hefyd yn agor drysau i agor archfarchn­adoedd, i agor sioeau ac agor ceg yn gyson mewn ciniawau drudfawr.

Diolch i’r BBC a’r ciwdos o fod ynghlwm wrthi, mae incwm y rhai ar y rhestr dipyn mwy na’r hyn a gafodd ei ddatgelu gan yr ystadegau moelion.

Ond mae yna ochr dda i’r ffigurau hefyd, hyd yn oed o safbwynt y Gymraeg. O weld y rhestr, pwy all ddadlau bellach fod yr iaith yn eich dal chi’n ôl neu fod gallu i’w siarad hi yn atal rhag llwyddo trwy’r Saesneg yn ogystal ag yn eich mamiaith?

Ac, wrth gwrs, mae’n gosod pethau mewn perspectif llawer cliriach; rydan ni’n gwybod bellach y byddai cyflog blwyddyn i un newyddiadu­rwr oedrannus yn ddigon i dalu am dair blynedd o holl wasanaetha­u a chyflogau Golwg360.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom