Treialon yn denu mwy o ddiddordeb nag erioed
BOB tair mlynedd cynhelir Treialon Cŵn Defaid y Byd, digwyddiad cymharol newydd. Yn drawiadol iawn, cynhaliwyd y digwyddiad hwn yn gyntaf yn y Bala yn 2002. Gyda llaw, yno y cynhaliwyd y treialon cŵn defaid cyntaf erioed yn 1823.
Yng Nghweriniaeth yr Iwerddon y cynhaliwyd ail Dreialon y Byd yn 2005, yna yn Llandeilo yng Nghymru yn 2008 ac i ddilyn yn Lloegr 2011 a’r Alban 2014.
Y tro hwn yn 2017 roedd Treialon y Byd yn denu mwy o ddiddordeb nag erioed gan iddynt gael eu cynnal tu allan i Brydain yn Opmeer, yr Iseldiroedd.
Dyma’r tro cyntaf i’r rhaglen gynnwys dosbarth i drafodwyr ifanc dan 21 oed.
Gwelwyd yno 250 o gystadleuwyr o 30 gwlad, rhai wedi teithio o wledydd cyn belled â’r Ariannin, Canada, Awstralia a Siapan. Mae diddordeb y merched mewn treialon cŵn defaid yn amlwg iawn dramor. Yng ngharfan Cymru roedd yna un ferch, gyda dwy ferch o Gymru yn y gystadleuaeth dan 21 oed.
Roedd yna ymdrech arbennig i wneud Treialon y Byd o ddiddordeb i ystod eang o bobl gyda stondinau ac arddangosfeydd o ddiddordeb i’r teulu cyfan.
Yn nodweddiadol o’r Iseldiroedd, roedd tirwedd lleoliad y cwrs yn gwbl wastad gyda chaeau yn cael eu rhannu gan ffosydd neu forgloddiau. Defnyddiwyd tri chae yn yr arbrofion er mwyn dewis 42 i fynd ymlaen i’r prawf cynderfynol. Roedd cyfle i’r 16 a gafodd y marciau uchaf geisio am deitl Pencampwr Treialon y Byd 2017 ac ennill gwobr o £3,000 a chwib aur.
Roedd rhaid wrth gi cadarn i drafod y mamogiaid enfawr. Yr anhawster pennaf oedd wrth ddidoli; y defaid ddim am gael eu gwahanu. Cafwyd safon eithriadol o uchel. Llwyddodd pedwar Cymro, pedwar o Norwy, tri o Sweden, dau o’r Iseldiroedd ac un yr un o’r Iwerddon, yr Alban a Denmac i fynd ymlaen am y Bencampwriaeth.
Llongyfarchiadau i Logan Williams, 13 oed o Sir Gâr am ddod yn ail dan 21 oed.
Jaran Knive o Norwy a’i gi Gin enillodd y Bencampwriaeth.
2. Kevin Evans o Frycheiniog gyda’i gi Ace.
3. Serge van der Zweep o’r Iseldiroedd gyda Gary.
4. Anja Holgersson o Sweden gyda Sod.
5. Karin Mattsson o Norwy gyda Trim.
6. Robert Ellis o Bort Talbot gyda Spot.
Tîm Lloegr ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth eleni.
Rhaid cydnabod trenfwyr yr Iseldiroedd am eu hymdrech i gynnal treialon mor drefnus a safonol.