WELSH COLUMN
DIGWYDDODD a darfu’r eclips ar draws Ameica. Bu hir ddisgwyl yna daeth y. tywyllwch cyn goleuni drachefn. Un o’r darnau hyfrytaf o ryddiaith a ddarllenais erioedd oedd ysgrif Anne Dillard am yr eclips,. Mae’n cychwyn drwy ddweud ei fod fel marw…
O’r eclips oddi uchod at farwolaeth go iawn a thestun trist yr wythnos hon am lyfr sydd wedi fy nghyffwrdd i’r byw. Ie, i’r byw. Rhyfedd ynte fel y mae’n rhaid defnyddio dywediad felly i’n hatgoffa mor feidrol ydym. Y gyfrol yw ‘ Galar a fi’ o Wasg y Lolfa a’r golygydd Esyllt Maelor sydd wedi dwyn ynghyd brofiadau 15 o gyfranwyr a gollodd anwyliaid. Bron na ellir darllen y gyfrol ar ei hyd, heb gymryd saib ac anadl ddofn.. Achos ceir yma ysgrifennu nage nid o’r galon ond o’r perfedd, ar dro yn gyfoethog o ddwys, bryd arall yn amrwd o effeithiol a phob un yn deyrnged clodwiw i’r sawl a gollwyd.
Dyna ichi ddull di-nonsens Chris Dafis herio gair coeg-feddal fel hiraeth gan ddweud: er cymaint yr ydyn ni’r Cymry ‘n hoffi brolio nad oes gair tebyg iddo un unrhyw un o ieithoedd eraill y byd, hen niwsans o air yw e. Ysgrif anodd I’w darllen yw hon ond anogaf bob un i’w darllen ynghyd â’r lleill am ei gonestrwydd egr. Y mae diweddglo hynod annisgwyl i bob un fel sydd i’w ysgrif ef.
Hoffwn pe bai gofod i ddweud rhywbeth am bob un cyfrannydd ac am eu hymatebion amyrwiol ond cyson o debyg hefyd. Y dulliau o ddelio â’r golled a’r darganfyddiadau annisgwyl er mor gymysg oll i gyd.
Digwydd hynny drwy chwilota am y meirw gyda chymorth seicig neu lythyru at y meirw, yma mae plethwaith o ysgrifau y gallwn eu dilyn yn betrus neu’n galon drom gan na wyddom yr awr, na’r dydd… Achos fel y dywedodd un, mae galar fel bod yn aelod o glwb.
Weithiau mae geiriau unigol yn gwneud i rywun golli anadl fel geiriau Mair Tomos Ifans pan ddywed : Petawn. Petai. Petasai.
Llowcio fy hiraeth. Ie, mewn chwe gair ond dyna’r hen air yna yn dychwelyd drachefn yn yr ysgrifau ond ew, mae yna ysgrifennu gwirioneddol gonest yma.
Sut y buom cyhyd cyn cael cyfrol fel hon, dwedwch. Can diolch i Esyllt Maelor, a welodd yr angen oherwydd ei galar hithau, gan gasglu ynghyd dystiolaeth y rhain oll.
Carwn fod wedi dyfynnu o waith pob un. Ac maent mor wahanol am fod bywyd yn ei helaethrwydd a phob colled yn wahanol . Eto, yr un yw angau, y diawl fel ydyw.
Prynwch y gyfrol, da chi. Rhoddais gopi neu ddau ail law o ‘Grief Observed. CS Lewis at hwn ac arall o bryd I’w gilydd. Ond dyma gyfrol sy’n rhagori, ac llawer mwy cymwys-ac yn Gymraeg.
Mae Dr Menna Elfyn yn Gyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant