Llysiau’r gingroen yn fygythiad i anifeiliaid
DEALLIR fod y chwyn gwenwynig, llysiau’r gingroen (ragwort), yn fwy amlwg nag erioed eleni.
Haws deall hyn gan ei bod yn flwyddyn eithriadol i bob math o dyfiant, yn enwedig chwyn, gyda digon o wlybaniaeth a dim rhew yn ystod y gaeaf.
Mae iddo hadau ysgafn a medrant gael eu cario gan awel o wynt i fyny hyd at 10 milltir.
Anhygoel yw deall y gall un llysieuyn y gingroen gynhyrchu rhwng 150,000 a 250,000 o hadau mewn blwyddyn.
Gellir olrhain y planhigyn i’r o’r Amerig adeg rheilffordd.
Fe’i plannwyd ar ochr y rheilffordd er mwyn harddu’r olygfa gan ei fod yn flodyn melyn lliwgar a deniadol.
Ni freuddwydiwyd bryd hynny y gallasai fod yn blanhigyn mor wenwynig.
Fe’i gwelir yn tyfu ar bob math o dir. Gall yr hadau fod ynghwsg yn y ddaear am flynyddoedd lawer.
Dyma sydd i’w gyfri am y ffaith ei fod yn fwy amlwg ar fin y ffordd os bydd yna waith wedi ei wneud i’w lledu neu i’w hunioni a’r ddaear wedi ei symud.
Mae llysiau’r gingroen yn blanhigion gwenwynig i anifeiliaid, yn enwedig i geffylau os digwydd i’r anifail eu bwyta.
Yn Ôl yr arbenigwyr, mae’n effeithio ar iau yr anifail. Dydy’r symtomau ddim bob amser yn glir a gall yr anifail ddioddef cystudd araf a chreulon.
Ddeuddeng mlynedd yn Ôl, llwyddodd Cymdeithas Ceffylau Prydain gyda chefnogaeth nifer o gyrff eraill, gael mesur drwy’r Senedd i reoli a difa llysiau’r gingroen er mwyn lleihau nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu gwenwyno os digwydd iddynt ei fwyta.
Rhaid atgoffa pob perchen tir neu unrhyw berson neu gorff sydd â thir dan eu gofal am eu cyfrifoldeb i geisio rheoli a chael gwared ar blanhigyn gwenwynig llysieuyn y gingroen.
Dylid torchi llewys a mynd ati i geisio cael gwared arno gan fod yna gyfrifoldeb ar bawb sydd â thir yn eu meddiant.
Y ffordd orau i gael gwared arno yw ei dynnu o’r gwraidd ac yna ei losgi, gan ddefnyddio menig pwrpasol.
Dylid gwneud pob ymdrech i’w gwahardd rhag tyfu er mwyn sicrhau nad yw’r anifeiliaid yn cael eu gwenwyno gan ddioddef marwolaeth greulon. dyfodiad wlad hon gosod y