Western Mail

Gofal gorau i’r adar er mwyn atal y ffliw

- Rhys Jones

YN AWR bod y dydd yn byrhau a’r tywydd yn oeri, mae Prif Swyddog Milfeddygo­l Cymru, Christiann­e Glossop, wedi cynghori ffermwyr a’r rhai hynny sy’n cadw adar, i gadw llygad barcud ar eu dofednod am arwyddion ffliw adar dros fisoedd y gaeaf.

Mae’r ffliw yn fygythiad parhaus a pheryglus i ddofednod ac mae rhaid bod yn wyliadwrus iawn o unrhyw arwydd o’r haint. Mae’r salwch yn heintus iawn ac yn effeithio ar systemau anadlu, nerfol a threulio nifer helaeth o adar. Yn ystod gaeaf 2016, darganfuwy­d straen ffliw adar H5N8 yn 13 haid ar draws y Deyrnas Unedig. Gwelwyd gostyngiad sylweddol o achosion newydd ymhlith dofednod Ewrop dros haf 2017, er i’r Eidal gael ei tharo’n ddiweddar.

Er y gostyngiad hwn, nid oes modd bod yn sicr os yw’r haint wedi diflannu’n llwyr. Cafwyd achos o’r ffliw adar yn Norfolk yn ddiweddar, pan ddaethpwyd o hyd i alarch marw ym mis Mehefin. Mae’n werth nodi bod yr arbenigwyr o’r farn bydd y clefyd yn taro eto dros y gaeaf – felly dim ond y gofal pennaf piau hi!

Mae Christiann­e Glossop am atgoffa pawb sy’n cadw dofednod ac adar caeth o ba mor bwysig yw bod yn effro i unrhyw arwyddion o’r clefyd, a chadw at y safonau diogelwch uchaf. Yn ôl y Prif Swyddog Milfeddygo­l, dylai unrhyw un sy’n poeni am iechyd a diogelwch ei adar trafod hynny gyda’i milfeddyg.

Yn ôl yr arbenigwyr mae yna nifer o bethau y gall perchnogio­n dofednod eu gwneud i leihau risg ffliw adar. Rhaid cadw’r ardaloedd lle cedwir yr adar yn lân a thaclus. Mae angen diheintio’r ardaloedd yn rheolaidd a glanhau esgidiau cyn ac ar ôl ymweld â’r adar.

Mae’n bwysig rhoi bwyd a dŵr i’r adar sydd yn yr ardaloedd hynny sydd wedi’u hamgáu’n llwyr. Dylid rhoi ffens o amgylch yr ardaloedd awyr agored y mae’r adar yn cael mynd iddynt, er mwyn eu hatal rhag mynd i byllau dŵr ac ardaloedd lle mae hwyaid a gwyddau gwyllt yn eu defnyddio.

Mae’n bwysig cadw’n effro i’r perygl trwy ymuno â gwasanaeth rhybuddion testun neu wasanaetha­u e-byst sy’n eich rhybuddio pan mae achos ffliw adar wedi ei ddarganfod yn y Deyrnas Unedig. Os yw’r gofal mwyaf posibl yn cael ei gweithredu, gellir lleihau perygl yr haint hwn i ddofednod yn syfrdanol.

Mae Rhys Jones yn aelod o dîm cynhyrchu cyfres Ffermio, sydd ar S4C bob nos Lun am 9.30yh. Gallwch wylio pennod neithiwr ar s4c.cymru a BBC iPlayer.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom