Western Mail

Yr hydref yn hynod o brysur i griw Ffermio

- Angharad Menna

RYDYM erbyn hyn yn nhymor yr hydref wrth gwrs, ac mae’r flwyddyn wir yn hedfan heibio.

Ond mae digon o storïau diddorol gyda ni ar Ffermio i’ch diddori wrth i’r dyddiau fyrhau a’r oriau o flaen y tân a’r teledu ymestyn.

Mae arwerthian­t hyrddod blynyddol yr NSA yn Llanelwedd wedi bod, ac fe fyddwn yn dangos ambell i uchafbwynt ar Ffermio nos Lun nesaf.

A wnaeth y pris uchaf faeddu’r pris uchaf y llynedd?

A oedd yr arwerthian­t mor lwyddiannu­s â’r arwerthian­t cynnar nôl ym mis Awst? Cawn weld! Yn ogystal â hyn byddwn yn edrych ar un peth sy’n pryderu ffermwyr yn gyson; sef gweld cig oen o Seland Newydd ar silffoedd archfarchn­adoedd Cymru a Phrydain.

Pam fod y cig yn cael groesawu i Gymru?

Mae’n rhaid ei fod yn rhatach yn amlwg, ond sut mae posib iddynt wneud elw pan mae’r cig yn cael ei allforio i ochr draw’r byd?

Un ffaith sy’n rhyfedd iawn yw bod bywyd silff cig Seland Newydd lawer yn hirach na bywyd silff cig y wlad hon, ond pam?

Daloni sy’n ymchwilio i mewn i’r mater ar nos Lun.

Un eitem arall fydd ar y rhaglen nos Lun fydd ymweliad y cymeriad cefn gwlad boblogaidd, The Welsh Whisperer â fferm Meinir.

Mae’r Welsh Whisperer wedi bod yn diddanu pobl mewn nifer o sioeau a dawnsfeydd ar draws Cymru dros yr haf.

Ond er ei fod yn edrych fel ffermwr ac yn actio fel ffermwr, sut fydd e’n goroesi ar fferm go iawn?

Cafodd Meinir lawer o hwyl gydag ef wrth ymgeisio i’w addysgu a’i hyfforddi ar ei fferm, gwyliwch i weld sut siâp oedd arno.

Ni fydd rhaglen Ffermio’n cael ei ddarlledu ar S4C yr wythnos ganlynol, oherwydd y gêm bêldroed fawr rhwng Cymru ac Iwerddon.

Ond mi fydd Ffermio’n dychwelyd fel arfer yr wythnos wedi hynny gan ofyn pam fod mwy o ferched yn astudio milfeddyga­eth na bechgyn, a beth yn union sydd angen ei wneud er mwyn sicrhau diogelwch ar y fferm?

Byddwn hefyd yn trafod newyddion diweddaraf y sioe laeth flynyddol. ei

Mae Angharad Menna yn aelod o dîm cynhyrchu cyfres Ffermio, sydd ar S4C bob nos Lun am 9.30yh. Gallwch wylio pennod neithiwr ar s4c.cymru a BBC iPlayer.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom