WELSH COLUMN
HEN bont ydi hi, ynghanol cwm gwag. Mymryn o drac caregog sy’n ei chroesi ac, i un cyfeiriad, mae yna wal o fynyddoedd i dorri calon teithiwr.
Pont Sgethin ydi hon yng nghesail mynyddoedd y Rhinogydd, rhwng Ardudwy a Meirionnydd; hen bont garreg grom sydd bellach yn croesi nant mewn cors a’r ffordd trosti fel petai’n arwain i unman.
Ac eto, flynyddoedd maith yn ôl, roedd y Goets Fawr, medden nhw, yn teithio tros Bont Sgethin ar ei ffordd o Harlech i Ddolgellau. Heddiw, mae’n anodd credu.
Yr ochr arall i fynydd Llethr, mae yna olion hen waith lle’r oedden nhw’n cloddio am fanganese; mae hynny yng Nghwm Nantcol lle nad oes dim bellach ond ambell fferm, tyddyn a thŷ ha’.
Un o’r ffermydd ydi Maesygarnedd lle’r oedd dyn o’r enw y Cyrnol John Jones yn arfer byw; un o’r dynion a arwyddodd y dystysgrif i ganiatáu torri pen Brenin Lloegr, Charles I.
Mae’r cyfan yn rhoi darlun gwahanol iawn o ardal sydd bellach yn cael ei hystyried gan rai yn un ddiarffordd, anghysbell, anghyfannedd. Ac, o bosib, fod hynny’n nodweddiadol o Gymru wahanol iawn i’n gwlad ni heddiw.
Ar hyd a lled mynyddoedd Elenydd ym Mhowys a Cheredigion, mae yna hen ffyrdd oedd yn cael eu defnyddio gan borthmyn i yrru eu hanifeiliaid tua Lloegr; mae yna gannoedd o dyddynnod a ffermydd bychain sydd wedi brwisioni rhwng bysedd y gwynt.
Bob hyn a hyn, mae olion hen dŷ oedd siŵr o fod yn cynnig bwyd a diod i deithwyr ac, mewn sawl man, mae hen olion gweithfeydd a chwareli. Ac o’ch cwmpas wrth ichi gerdded, mae cysgodion yr holl bobol hynny oedd yn mynd a dod tros y bryniau yn y dyddiau gynt.
Draw yn yr Wybrnant wedyn, cartre’r Esgob William Morgan ger Penmachno, mae ei hen aelwyd, Tŷ Mawr, i ni’n ymddangos yn fach. A dyw’r ffordd trwy’r cwm hwnnw chwaith yn mynd i unman, ond yn ôl.
Yr enw sy’n ddigon i ddangos bod ddoe’n wahanol iawn. Roedd y ffordd yn brysur a Tŷ Mawr yr Wybrnant yn gartre’ i fusnes llewyrchus yn cynnig llety a lloches i’r teithwyr.
Roedd hynny cyn i’r car, y priffyrdd tarmac a’r rheilffyrdd weddnewid ein dulliau teithio, cyn i brosiectau sychu tir ychwanegu at dir isel yr arfordir ac agor rhai o’r dyffrynnoedd.
Roedd datblygiadau felly’n creu llefydd prysur newydd a hen fannau croesi a chroesffyrdd yn sydyn yn troi’n anghysbell, fel broc môr ar draeth wedi i’r llanw gilio.
Mi fyddai map o Gymru bryd hynny i ni’n beth diarth iawn. Ac roedd map y meddwl hefyd yn eitha’ gwahanol – y darlun oedd gan bobol yn eu pen o’r wlad a’r tir o’u cwmpas.
Nhw oedd biau’r llwybrau. Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360