Dylid sicrhau fod pob plentyn yn yfed llaeth
BOB blwyddyn ers 1999 cynhelir Diwrnod Llaeth Ysgolion y Byd ar Fedi 27ain gyda nifer fawr o wledydd tramor yn dathlu’r diwrnod.
Ymgyrch yw godi ymwybyddiaeth plant a’r cyhoedd am y maeth sydd mewn llaeth a chynhyrchion llaeth.
Daw hyn a chyfle i amlygu rhagoriaethau llaeth a’r manteision o’i yfed.
Efallai na sylweddolir pa mor bwysig yw llaeth yn ein deiet dyddiol gan y perthyn iddo rinweddau amhrisiadwy i iechyd y corff fel protin, calsiwm a fitaminau sy’n angenrheidiol i ddeiet cytbwys.
Yn Ôl canfyddiadau cadarnhaol gwaith ymchwil arbenigol ledled y byd, ni ellir gorbwysleisio pa mor bwysig yw llaeth na chynhyrchion llaeth i iechyd plant, yr ifanc a phobl hŷn.
Yn ddiweddar, darganfuwyd, a hynny yn groes i’r gred gyffredinol, fod plant sydd wedi yfed llaeth yn rheolaidd yn llai tebygol o ennill pwysau yn ormodol pan fyddant yn hŷn.
O ganlyniad i waith ymchwil Epidemioleg llaeth a gyhoeddwyd gan yr Athro Peter Elwood o Brifysgol Caerdydd, profwyd fod pobl sy’n yfed llaeth yn llai tebygol o gael stroc, 12% yn llai tebygol o gael trawiad ar y galon a llai tebygol o ddioddef rhai mathau o gancr.
Fe’n rhybuddir fod gordewdra ar gynnydd drwy’r wlad ond ofnir fod y cyhoedd dros y blynyddoedd wedi cael eu camarwain trwy gael eu hannog i dorri lawr ar fenyn a hufen er mwyn lleihau problemau gordewdra.
Deallir fod llaeth yn cynnwys asid sy’n ychwanegu at galoriau a drawsnewidir i’r cyhyrrau yn hytrach na magu braster.
Tuedda merched yn enwedig beidio ag yfed llaeth er mwyn colli pwysau, ond profwyd trwy waith ymchwil eu bod yn fwy bywiog a heini trwy yfed llaeth ac felly yn llosgi mwy o galoriau.
Mae’r calsiwm mewn llaeth yn lleihau achosion esgyrn brau, yn cryfhau’r dannedd ac yn sicrhau gymiau iach.
Gyda’r rhagoriaethau sy’n gysylltiedig ag yfed llaeth a chynhyrchion sy’n deillio ohono, dylai Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd sicrhau fod pob plentyn, trwy gydol ei ddyddiau ysgol, yn cael digon o laeth er mwyn sicrhau gwell iechyd. hon i