Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

FI HEFYD. Beth? Dechreuodd y dywediad gyda rhywun yn awgrymu i eraill gydnabod cael eu plagio.

Daw hyn fel ymateb i hanes Harvey Weinstein, rhyw fath o dduw, mae’n debyg, yn y byd ffilmiau gyda llwyddiann­au mawr Oscar i’w enw.

Cofiaf ddyfyniad diddorol gan y bardd Nobel Pablo Neruda dro’n ôl: “It so happens that I’m sick of being a man.”

Dyma sylw a glywais gan sawl cyfaill o ddyn yn ddiweddar, a’r teimlad fod ymddygiad rhai dynion yn eu gadael yn flin, neu’n ddiflas.

Ond gadewch imi droi at ferched yn awr. Nid ar chwarae bach mae unrhyw ferch yn cyfaddef iddi gael ei chamdrin – heb sôn am gael ei threisio.

A heb fynd i fyd y Mabinogi ni fathwyd hyd yma air cyfoes perthnasol am y weithred o “rêp”.

Bûm yn darllen “Bitch Doctrine, Essays for Dissenting Adults” gan Laurie Penny o wasg Bloomsbury yn ddiweddar. Cyfrol wych a mawr ei hangen yn ein byd o anhrefn a chelwyddau.

Mae’n fyd rhyfedd pan yw Arlywydd America yn galw Mecsicania­id o ymfudwyr yn “rapists” ac eto’n cael ei glywed ar dâp yn dweud na all helpu ei hun pan wêl ferch hardd. Rhagrith mwy yw ei fod ar un adeg yn dweud y dylai merched gael eu cosbi am erthylu ond wedyn igam ogamodd.

Dywediad newydd falle i ddisgrifio’r safonau dwbl yn ein cymdeithas tuag at ferched – igam ogamu!

Yr awydd i’w cosbi neu eu collfarnu os ydynt yn rhy dew neu’n rhy hyf – fel yn achos Hilary Clinton wrth baratoi’n ofalus ar gyfer y dadleuon cyhoeddus. Hyfryd oedd ei gweld yn cael anrhydedd yn y brifysgol yn Abertawe yr wythnos diwethaf.

Ond yn ôl at fyd y ferch. Pan ysgrifenna­is “Wnaiff y gwragedd aros ar ôl” yn yr ’80au, cerdd reit ysgafn oedd hi. Bellach mae gwragedd yn camu i’r blaen, heb aros ar ôl, gan adrodd eu profiadau dirdynnol. Merched llwyddiann­us ond â’r un gyfrinach wedi ei rewi ynddynt hyd nes iddynt gael yr hyder i’w fynegi.

Un o ddywediada­u mwyaf dwl ein hoes yw cyfrinach agored. Dywediad i lanhau meddwl y sawl sy’n clywed y clecian annymunol efallai. Hoffwn gredu fod agweddau yn newid. Neu falle mai optimist ydw i.

Ond ni fydd newid heb gael rhaglenni addysg cymdeithas­ol a phersonol i addysgu bechgyn a merched o gyfnod cynnar iawn y ffordd gywir o ymddwyn tuag at ei gilydd.

Dyna osod yr her felly i gynllunwyr addysg yng Nghymru a Kirsty Williams y Gweinidog i roi cynllun ar waith a fydd yn gwireddu hyn.

Meddyliwch? Mae rhai gemau cyfrifiadu­rol yn ymwneud â robotiaid sy’n caniatáu i’r sawl sy’n chwarae benderfynu a ddigwyddod­d “rêp” neu beidio. Fel pe bai’n hwyl fawr.

Digon a chymwys yw dau air i gloi – fi hefyd.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom