Llyfr gwerth chweil ar gymdeithas y cobiau
AR ACHLYSUR dathlu 25 mlwyddiant Cymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig Ceredigion, cyhoeddwyd llyfr o hanes y gymdeithas dros y cyfnod.
Rhoddwyd hanes ar gof a chadw trwy grynodeb o gychwyniad y gymdeithas a’r datblygiadau yn ystod y cyfnod.
Ar y tudalen gyntaf ceir darn o farddoniaeth o eiddo’r Prifardd John Roderick Rees sy’n datgelu’r cyfan: Ceredigion sydd piau stori Uchel ganrif y cob a’r poni, O’u cynefin aeth dros y ffiniau Y meirch ar drafel i fwrw gwreiddiau.
Mae i bob cylch ei geffyl traddodiadol a chydnabyddir mai Ceredigion yw cartref y merlod a’r cobiau Cymreig.
Cyfeirir yn aml at y cobyn yng Ngeredigion fel ceffyl y dyn tlawd, gan mai’r cobyn fyddai’r unig geffyl a gedwid ar ffermydd cefn gwlad Ceredigion a’r cobyn hefyd fyddai’n gwneud yr holl oruchwylion.
Mae ganddo nodweddion arbennig. Yn geffyl amryddawn, hywedd a chryf, medrai drafod llwythi trwm yn siafft y gambo, y cart, y trap ac o dan gyfrwy.
Yn ystod datblygiadau’r chwyldro diwydiannol collodd y ceffyl ei le mewn gwaith ond fe ddaeth yn amlwg ym myd plesera fel ceffyl ysgafn.
Mae bridfaon yng Nghreredigion wedi dal ati i fagu merlod a chobiau Cymreig i ateb y galw. Trwy hyn daethant i amlygrwydd gan roi Ceredigion ar fap y byd.
Mae corf lluniaidd y cob yn destun edmygedd; ei symudiad gosgeiddig ai osgo unigryw sy’n gwfreiddio tyrfa bob amser. Gwelir tystiolaeth o hyn yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Dros y blynyddoedd mae Cymdeithas Ceredigion wedi ehangu gorwelion trwy gynnal sioe swglod yn yr Hydref a’r Sioe Haf. Ynddynt ceir cyfle i weld merlod a chobiau gorau’r wlad.
Yn y llyfr newydd hwn ceir cyfraniadau, erthyglau a lluniau prif enillwyr y ddwy sioe a rhagor. Y cyfan gan aelodau’r gymdeithas sy’n dod â’r hanes yn fyw i lawer cof ac yn siwr o brocio llawer stori ddifyr.
Nid llyfr i’w ddarllen unwaith ond cyfrol i droi ati yn aml ac a ddaw ag atgofion lawer.
Llyfr addysgiadol, llawn gwybodaeth ddiddorol ac angenrheidiol. Trysor i’r oes a ddel. Gall ennill ei le ar unrhyw silff lyfrau.
Anrheg penblwydd neu bresant Nadolig heb ei ail.