Y Ffair Aeaf yn gyfle i gystadlu a mwynhau
“DIM ond heddiw tan yfory, dim ond fory tan y ffair” meddai’r hen ddywediad.
Roedd ffeiriau yn rhan anhepgor o fywyd gwerin Cymru, yn enwedig i ffermwyr ac i’w gweision a’u morynion. Cydnabyddid ffeiriau yr adeg yma o’r flwyddyn fel ffeiriau diwedd tymor neu ffeiriau cyflogi yn ogystal â chyfle i blesera.
Dibynnai’r ffermwyr ar y ffeiriau i werthu eu hanifeiliaid. Gyda dyfodiad y marchnadoedd a’r newidiadau o fewn y diwydiant amaethyddol daeth prif bwrpas y ffeiriau i ben.
Gellir cydnabod fod Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi ail gynneu’r fflam drwy gynnal deuddydd o ffair a gynhelir eleni ar Dachwedd 27 a 28.
Ers ei sefydlu yn 1990, fel ffair un diwrnod bryd hynny, mae wedi ennill ei phlwy fel un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd ar galendr pobol Prydain a thu hwnt.
Prif bwrpas y Ffair Aeaf yw rhoi cyfle dros gyfnod o ddeuddydd i stocmyn blaengar o bob rhan o’r Deyrnas Unedig gystadlu am yr anifail gorau, gan gynnwys cŵn, gwartheg, ceffylau, defaid, geifr, a moch. Dyma gyfle i weld y stoc dethol gorau yn Ewrop.
Nid anifeiliaid yn unig a welir yn y ffair yn Llanelwedd ond ystod eang o wahanol gynnyrch o’r gymuned wledig a’r diwydiant amaethyddol.
Mewn adeilad pwrpasol, gwelir yn y Neuadd Fwyd gynhyrchwyr gorau Cymru yn arddangos eu cynnyrch o fwyd a diod gyda chyfle i flasu a phrynu.
Bydd llawer o gystadlaethau tymhorol eu thema yn y dosbarthiadau coginio, gwaith llaw, gosod blodau a garddwriaeth a fydd yn adlewyrchu naws Nadoligaidd ac yn rhoi cyfle godidog i gystadleuwyr arddangos eu dawn.
Pa un ai a ydych yn athrylith coginio neu’n meddu ar ddawn i dyfu pethau, neu â llaw fedrus gydag edau a nodwydd, yn hoff o dynnu lluniau neu osod blodau, ceir amrywiaeth, gan gynnwys cystadlaethau i blant.
Ceir arddangosiadau hyfryd ar stondinau Merched y Wawr a Sefydliad y Merched a gynhelir yn Neuadd Clwyd Morgannwg dros y deuddydd a bwrlwm yng nghystadleuaeth mudiad y Clwb Ffermwyr Ifainc.
Bydd cyfle i drafod rhai o bynciau llosg y dydd yng nghornel y siaradwyr ar stondinau’r ddwy Undeb Amaethyddol.
Ond nid dyma’r cyfan. Ar Ôl 4yh dydd Llun ceir mynediad am ddim i’r ffair. Cyfle i siopa gydag arddangosfa tân gwyllt.
Gwelwn ni chi yno.